Skip to content

Llesiant ariannol yn y gweithle

Darganfyddwch sut i gefnogi llesiant ariannol gweithwyr a dysgwch am yr offer a all eu cynorthwyo i reoli eu cyllid.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi llesiant ariannol eich gweithwyr.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:

Cael sgyrsiau cyfrinachol a chefnogol

Dechrau sgyrsiau cyfrinachol a chefnogol gyda gweithwyr am eu sefyllfaoedd ariannol. Bydd diogelu preifatrwydd gweithwyr yn eu hannog i geisio cymorth heb ofni gwahaniaethu neu effaith ar eu swydd.

Defnyddio adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) i hybu llesiant ariannol eich gweithwyr.

Ymweld â gwefan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) am arweiniad ar lesiant ariannol (Saesneg yn unig) sy’n cynnig awgrymiadau ymarferol i helpu i hyrwyddo a chefnogi llesiant ariannol gweithwyr.

Dod yn gyflogwr gwaith teg

Gellir gwneud hyn drwy gynnig cyflog da, cynnwys gweithwyr mewn penderfyniadau, bod yn hyblyg a chreu gweithle iach.

Darganfod mwy am waith teg.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o lesiant ariannol

Defnyddio ymwybyddiaeth fel ymgyrch Wythnos Siarad Arian fel cyfle i ddechrau sgyrsiau a rhannu adnoddau am lesiant ariannol.

Cyfeirio at wasanaethau cyngor ar ddyled, sy’n gyfrinachol ac yn annibynnol ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys dyled ac arian.

Y Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yw’r gwasanaeth cyntaf sy’n cwmpasu’r DU sy’n cyfuno cefnogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl a phroblemau ariannol.

Mae HelpwrArian yn darparu cyngor ariannol a chymorth ynghyd ag offer a chyfrifianellau ar-lein i helpu i gadw golwg ar gyllid a chynllunio ymlaen llaw.

Mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol (Saesneg yn unig) yn elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyled ac yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Cynghori Ariannol (Saesneg yn unig).

Rheoli newidiadau yn y gwaith

Gall colli swydd arwain at arferion sydd ddim yn iach, mwy o orbryder ac iselder.

Mae hefyd yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau. Gall rheoli diswyddiadau yn dda helpu i leihau’r effeithiau negyddol hyn.

Mae ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) (Saesneg yn unig) wedi creu canllaw syml i reolwyr sy’n ystyried diswyddo gweithwyr.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Arian papur a darnau arian ar fwrdd.