Amdanom ni

Ar draws Cymru, mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith, absenoldeb oherwydd salwch, a phroblemau iechyd hirdymor yn effeithio ar filoedd o bobl, gan gostio amser ac adnoddau gwerthfawr i fusnesau.

Ond gyda’r gefnogaeth gywir, gellir rheoli’r heriau hyn, gan helpu gweithwyr a sefydliadau i ffynnu.

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol, trwy ganolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Amgylcheddau gwaith iach
  • Ffyrdd o fyw iach
  • Cefnogi gweithwyr ag anghenion iechyd

P’un a ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf tuag at weithle iachach neu’n datblygu arferion da presennol, gall Cymru Iach ar Waith helpu.

Trawsgrifiad – Trosolwg o Cymrru Iach ar Waith

Ar draws Cymru, mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith, absenoldeb oherwydd salwch, a phroblemau iechyd hirdymor yn effeithio ar filoedd o bobl, gan gostio amser ac adnoddau gwerthfawr i fusnesau.

Ond gyda’r gefnogaeth gywir, gellir rheoli’r heriau hyn, gan helpu gweithwyr a sefydliadau i ffynnu.

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol, trwy ganolbwyntio ar dri maes allweddol:

Amgylcheddau gwaith iach; hyrwyddo cyfathrebu, datblygiad, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

Ffyrdd o fyw iach; gan gynnwys lles meddyliol, gweithgaredd corfforol a maeth. Cefnogi gweithwyr ag anghenion iechyd; gan gynnwys rheoli cyflyrau cronig a dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.

Rydym yn ei gwneud hi’n syml i gyflogwyr gymryd camau gweithredu gyda’n dull Mynediad, Cwblhau ac Ymgysylltu o roi cymorth am ddim:

Mynediad et ein hadnoddau gwefan, gweminarau a theclynnau i gyd ar gael am ddim.

Cwblhau ein modiwlau e-ddysgu am ddim ar gyfer dysgu mwy manwl, a’n Teclyn Arolwg Cyflogwyr i asesu eich gweithle a nodi meysydd i’w gwella.

Ymgysylltu â’n gwasanaeth Cymorth Cynghorydd Gweithle a’n Rhaglen Mentora Cyfoedion i gael canllawiau 1:1 wedi’u teilwra a chysylltu â sefydliadau eraill.

Cymru Iach ar Waith – Cefnogi cyflogwyr i greu gweithle iach, gweithlu iach a busnes iach.

Ewch i iacharwaith.cymru i ddechrau heddiw.

Sut gall Cymru Iach ar Waith helpu

Rydym yn ei gwneud hi’n syml i gyflogwyr gymryd camau gweithredu gyda’n dull Mynediad, Cwblhau ac Ymgysylltu o roi cymorth am ddim.

Mynediad

Gwybodaeth ac adnoddau

Mae ein rhestr A-Y o faterion Iechyd a Llesiant yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau ar draws ystod eang o bynciau i gefnogi sefydliadau i wella iechyd a llesiant yn eu gweithle.

Archwilio ein rhestr A-Y

Pecyn cychwyn llesyn y gweithle

Rydym wedi creu’r canllaw ymarferol hwn i gefnogi sefydliadau sy’n gofalu am eu pobl ac sydd eisiau gwneud gwaith yn lle iachach, mwy cadarnhaol i fod ynddo.

Pa bynnag gam rydych chi wedi’i gyrraedd, bydd y pecyn hwn yn eich helpu i symud ymlaen – un cam ar y tro.

Lawrlwythwch eich pecyn cychwyn llesyn y gweithle

Gweminarau

Mae ein gweminarau am ddim yn rhoi mewnwelediadau arbenigol ac arweiniad ymarferol ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud ag iechyd a llesiant, er mwyn helpu sefydliadau i greu gweithleoedd iachach a hapusach.

Archwilio gweminarau

Cwblhau

Offeryn Arolwg Cyflogwyr

Dyma arolwg rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae eich sefydliad yn perfformio o ran iechyd a lles yn y gweithle, a pha gamau eraill y gallech chi eu cymryd.

Mewngofnodwch neu cofrestrwch i ddechrau arni.

Dysgu rhagor am ein Hofferyn Arolwg Cyflogwyr

E-ddysgu

Cofrestrwch i gael mynediad at ein modiwlau e-ddysgu ar blatfform BOSS Busnes Cymru.

Rydym wrthi’n datblygu modiwlau e-ddysgu pellach yr ydym yn edrych ymlaen at eu rhannu â chi’n fuan.

Ewch i e-ddysgu

Ymgysylltu

Cymorth gan Gynghorwr Gweithle

Mae ein Cymorth gan Gynghorwr Gweithle yn rhoi cyfle i gyflogwyr yng Nghymru gael sgwrs un-i-un gyda chynghorwr Cymru Iach ar Waith. Mae’r sesiynau ar-lein hyn yn digwydd ar Microsoft Teams a gallant bara hyd at ddwy awr.

Gallwch drefnu cymorth un-i-un i’ch helpu i wella iechyd, diogelwch a lles yn eich gweithle, a bydd eich sgwrs yn seiliedig ar eich ymatebion i’r Arolwg i Gyflogwyr.

Gallwch ofyn am sesiwn ar ôl cwblhau’r arolwg.

Dysgwch mwy am Gymorth gan Gynhorwr Gweithle

Gweithdai

Mae ein gweithdai rhyngweithiol am ddim yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Maent yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau iechyd a llesiant i gefnogi gweithleoedd iachach a hapusach.

Archwilio gweithdai

Mentora Cymheiriaid

Mae ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn dod â sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu profiadau real, cyngor ymarferol, a dulliau sydd wedi ennill eu plwy’ o wella lles yn y gweithle.

Dysgwch mwy am Fentora Cymheiriaid

Cael cydnabyddiaeth am y gwaith rydych chi’n ei wneud

Mae ein Bathodynnau Cydnabyddiaeth yn dathlu sefydliadau ledled Cymru sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dysgu am y gwahanol fathodynnau a sut y gall eich sefydliad ennill cydnabyddiaeth.

Archwilio Bathodynnau Cydnabyddiaeth

Cael syniadau ac ysbrydoliaeth

Archwilio ein straeon llwyddiant i ddysgu sut mae sefydliadau ledled Cymru yn blaenoriaethu iechyd a llesiant yn eu gweithleoedd.

Dysgu am yr hyn sy’n gweithio iddyn nhw a chael syniadau y gallwch chi eu defnyddio yn eich sefydliad.

Darllen straeon llwyddiant

Cadw i fyny â’r newyddion diweddaraf am Cymru Iach ar Waith

Cael y newyddion diweddaraf am adnoddau newydd, digwyddiadau sydd ar ddod a ffyrdd ymarferol o gefnogi iechyd a llesiant yn eich gweithle.

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Hadroddiadau Blynyddo CIW

Mae Cymru Iach ar Waith yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i ddarparu crynodeb manwl o’r wybodaeth am y gwaith a wneir bob blwyddyn ariannol.

Mae dolenni i’n hadroddiadau blynyddol ar gael isod.

Rhagor o wybodaeth 

E-bostiwch ni: [email protected]

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi. 

 Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: 

LinkedIn: @Healthy Working Wales / Cymru Iach Ar Waith

Facebook: @cymruiacharwaith

Instagram: @cymruiacharwaith

YouTube

.