Straeon Llwyddiant
Enghreifftiau go iawn o sut mae sefydliadau wedi mynd i’r afael â materion iechyd a lles pwysig yn eu gweithleoedd.
A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?
Cysylltwch â ni i adrodd eich stori ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!
-
Profion Antigen Prostad-benodol (PSA) ar y safle ar gyfer staff Grŵp Llandrillo Menai
Lansiodd Grŵp Llandrillo Menai ei ymgyrch Sgwrs Gyda'r Hogia i godi ymwybyddiaeth o iechyd dynion a chanser y brostad. Drwy ddarparu profion PSA ar y safle i staff 40 oed a hŷn, cynyddodd y sefydliad fynediad at brofion sgrinio, anogodd gynnal sgyrsiau am iechyd dynion, a chefnogodd gyfleoedd i ganfod afiechyd yn gynnar.
-
Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r menopos a llesiant yn y gwaith
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cryfhau cefnogaeth i staff sy'n profi'r menopos drwy godi ymwybyddiaeth, darparu canllawiau ac adnoddau, cynnwys y menopos yn ei fentrau llesiant a chydraddoldeb ac annog sgyrsiau agored ar draws y sefydliad.
-
Dull rhagweithiol Admiral o reoli straen yn y gwaith
Drwy ddarparu dull rhagweithiol o reoli straen, mae Admiral wedi cefnogi cydweithwyr i newid eu meddylfryd gyda sgiliau ac offer sy'n eu grymuso i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ymdopi â sefyllfaoedd pwysau uchel.
-
Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith
Er mwyn cefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno mannau pwrpasol i staff sy'n darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a phreifat ar gyfer bwydo ar y fron, tra hefyd yn cefnogi anghenion llesiant.
-
Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio byd natur i gefnogi llesiant staff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn cefnogi staff ac yn lleihau diffygiad gyda'i Raglen Ymadfer ym Myd Natur. Trwy gyfuno amser ym myd natur, ymyriadau therapiwtig, addysg am iechyd meddwl a gweithgareddau llesiant dan arweiniad, mae'r rhaglen wedi dangos buddion clir i lesiant staff.
-
Sut mae Penseiri Pentan yn gofalu am eu llesiant yn ogystal â’u llwyth gwaith
Yn ogystal â bod wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy i'r amgylchedd adeiledig, mae'r practis hefyd yn cynnig ystod eang o fentrau iechyd a llesiant a chefnogaeth ymarferol i'w tîm er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob cam o’u bywyd.
-
Sut adeiladodd Banc Datblygu Cymru weithle iachach drwy gefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith
Mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth gyda hyfforddiant, sesiynau ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad a datblygu Llysgenhadon Niwroamrywiaeth.
-
Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ysbrydoli gweithlu mwy egnïol
Dysgwch sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr yn ymgysylltu â gweithgarwch corfforol drwy her weithgaredd flynyddol.
-
Creu cyflogaeth gynhwysol yn Sight Cymru
Mae ffocws Sight Cymru ar gyflogaeth gynhwysol wedi creu gweithle lle gall gweithwyr sydd wedi colli eu golwg lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
-
Sut y datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys weithle mwy gwydn
Defnyddiodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddull MAC (Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness, Therapi Derbyn ac Ymrwymo (Acceptance and Commitment Theory) a Thosturi (Compassion)) i gefnogi staff. Roedd y canlyniadau'n cynnwys gwell hunan-dosturi a gostyngiad mewn gofid.