Skip to content

Cyfathrebu yn y gweithle

Darganfyddwch sut y gall cyfathrebu da yn y gwaith arwain at weithlu ymgysylltiedig â gwell morâl, ymddiriedaeth a chynhyrchiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae cyfathrebu effeithiol yn dechrau ar y brig. Mae cyflogwyr yn chwarae rhan allweddol wrth lunio gweithle agored a chynhwysol lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u hysbysu. Isod mae camau allweddol i wella cyfathrebu:

Gwneud cyfathrebu’n glir, yn gyson ac yn gynhwysol
  • Annog sgyrsiau agored drwy gyfarfodydd tîm rheolaidd a sgyrsiau un-i-un ac mae fforymau’n helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cymryd rhan
  • Gosod disgwyliadau clir i sicrhau bod gweithwyr yn deall nodau’r cwmni, diweddariadau a’u rolau
  • Defnyddio ffyrdd gwahanol o rannu gwybodaeth – e-byst, cyfarfodydd, cylchlythyrau ac offer digidol i helpu i gyrraedd pawb
  • Cadw negeseuon yn syml, hygyrch ac yn rhydd o jargon
Creu diwylliant o adborth ac ymgysylltu
  • Darparu sianeli adborth fel arolygon a thrafodaethau agored i glywed barn gweithwyr
  • Cefnogi grwpiau gweithwyr ac undebau llafur drwy roi ffyrdd strwythuredig i weithwyr leisio pryderon a chydweithio ar atebion
  • Penodi Hyrwyddwyr Llesiant i hyrwyddo llesiant yn y gweithle a rhannu negeseuon allweddol
  • Ymarfer gwrando gweithredol – dylai rheolwyr ymateb i adborth ac arwain drwy esiampl wrth gyfathrebu
Defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad
  • Defnyddio offer digidol – mae llwyfannau fel Microsoft Teams neu Zoom yn helpu timau o bell a thimau hybrid i gyfathrebu’n effeithiol
  • Cynnal sesiynau holi ac ateb rhithwir, byrddau trafod ac olrhain ymgysylltiad i sicrhau cyfathrebu effeithiol
Cydnabod a gwobrwyo cyfathrebu cryf
  • Cydnabod gweithwyr sy’n cyfrannu at gyfathrebu agored trwy gydnabyddiaeth neu gymhellion
  • Dathlu arferion cyfathrebu da trwy rannu straeon llwyddiant i ysbrydoli eraill
Olrhain a gwella cyfathrebu
  • Monitro cyfranogiad mewn cyfarfodydd, arolygon a gweithgareddau ymgysylltu i sylwi ar dueddiadau a chyfleoedd
  • Adolygu adborth gweithwyr yn rheolaidd i addasu strategaethau a gwella cyfathrebu

Dyma enghraifft o arolwg pwls byr neu arolwg cyflym y gellir ei ddefnyddio i gasglu barn gweithwyr ar flaenoriaethau lles presennol yn eich gweithle:

Cyflwyniad

Hoffem i’ch barn helpu i lunio ein blaenoriaethau lles presennol. Dim ond munud sydd ei angen i gwblhau’r arolwg byr hwn.

Pa faes lles sydd bwysicaf i chi ar hyn o bryd?

(Dewiswch un)

☐ Iechyd meddwl a rheoli straen

☐ Gweithgarwch corfforol a bod yn actif

☐ Bwyta’n iach a maeth

☐ Lles ariannol

☐ Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

☐ Y menopos neu iechyd atgenhedlu

☐ Arall (nodwch os gwelwch yn dda): ___________

Pa mor dda ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich cefnogi gan y sefydliad o ran eich iechyd a’ch lles yn y gwaith?

(Graddfa: 1 = Dim cefnogaeth o gwbl | 5 = Cael fy nghefnogi’n llawn)

☐ 1 ☐ 2 ☐ 3 ☐ 4 ☐ 5

Pa fathau o gefnogaeth lles fyddech chi’n meddwl sydd fwyaf defnyddiol?

(Dewiswch bob un sy’n berthnasol)

☐ Diweddariadau neu gylchlythyrau e-bost

☐ Gweithdai byr neu sesiynau galw heibio

☐ Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol

☐ Offer neu hyfforddiant ar-lein

☐ Sgwrs un-i-un neu fentora

☐ Hyrwyddwyr lles yn y gweithle

☐ Arall (nodwch os gwelwch yn dda): ___________

Ydych chi wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau lles yn y gweithle yn ystod y 3 mis diwethaf?

☐ Do

☐ Naddo

☐ Doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw rai

Beth yw un peth yr hoffech weld mwy ohono i gefnogi eich lles yn y gwaith?

Blwch testun rhydd

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25th Gorffennaf 2025

Menyw yn gwenu, yn eistedd wrth fwrdd ac yn cael trafodaeth ddymunol â grŵp mewn swyddfa cynllun agored.