Rheoli absenoldeb salwch
Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.
Pwysigrwydd rheoli absenoldeb salwch
Fel cyflogwr, dylech ddefnyddio arferion rheoli salwch effeithiol yn eich gweithle. Bydd hyn yn eich helpu i greu gweithle iachach, mwy cynhyrchiol sy’n cydymffurfio’n gyfreithiol.
Gall rheoli absenoldeb salwch yn effeithiol arwain at lawer o fuddion.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Arbedion cost
- Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd
- Hybu llesiant gweithwyr
- Gwell enw da
- Amgylchedd gwaith cadarnhaol
Trwy sefydlu prosesau clir i gadw golwg ar bresenoldeb a delio ag unrhyw faterion, gallwch helpu’ch gweithwyr a lleihau nifer yr absenoldebau yn eich gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025