Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith
Darganfyddwch ganllawiau ac offer i'ch helpu i adolygu eich arferion presennol a chymryd camau i adeiladu gweithle mwy cynhwysol.
Gwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y gweithle
Er gwaethaf amddiffyniadau cyfreithiol, mae pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn dal i wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb yn y gweithle.
Dywedodd dros draean o weithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru eu bod yn celu neu’n cuddio eu rhywioldeb yn y gwaith rhag ofn iddyn nhw wynebu gwahaniaethu. Darllenwch adroddiad llawn Stonewall (Saesneg yn unig).
Yng Nghymru yn ystod 2020-21:
- Roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn is na’r gyfradd ar gyfer pobl wyn
- Mae un o bob pum mam wedi dweud eu bod wedi profi aflonyddu neu sylwadau negyddol yn y gwaith
- Roedd cyfraddau cyflogaeth yn debyg i bobl heb grefydd a Christnogion, ond yn is i unigolion o grwpiau crefyddol eraill
- Mae bwlch nodedig yn bodoli yn y gyfradd cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydyn nhw’n anabl yng Nghymru
Darllenwch adroddiad llawn Llywodraeth Cymru.
Canfu papur Cabinet Llywodraeth Cymru yn 2022 fod gweithwyr anabl yn ennill llai, ar gyfartaledd, na gweithwyr nad ydynt yn anabl.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Awst 2026