Gall defnyddio eich sianeli cyfathrebu â staff fod yn ffordd dda o rannu gwybodaeth a hyrwyddo adnoddau a all wella iechyd meddwl a llesiant.
Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol
Mae gwefan Hapus yn darparu amrywiaeth eang o offer ac adnoddau lles sydd â’r nod o warchod a hyrwyddo lles meddyliol.
Bydd taith drwy’r wefan yn eich helpu i ddeall lles meddyliol a pham ei bod yn bwysig amddiffyn a hyrwyddo eich lles meddyliol chi a’ch gweithwyr.
Ei nod yw ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau y gwyddys eu bod yn hyrwyddo ac yn diogelu lles meddyliol.
Sefydliad Iechyd Meddwl
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl (Saesneg yn unig) yn cynnig offer a chyngor i helpu pobl a sefydliadau i flaenoriaethu iechyd meddwl
Rhaglenni Cymorth i Weithwyr
Rhaglenni Cymorth i Weithwyr yn darparu gwasanaethau cwnsela a chymorth cyfrinachol
Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth
Mae llawer o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, fel Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, y gallwch eu hyrwyddo yn eich gweithle. Ewch i’n hadran Ymgyrchoedd a Digwyddiadau i ddarganfod mwy.