Loading Digwyddiadau

Ar Eich Traed Brydain

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Darganfyddwch sut i ddefnyddio Ar Eich Traed Brydain i annog gweithwyr i symud mwy yn y gwaith a manteision gweithleoedd egnïol.

Gwerth hyrwyddo Ar Eich Traed Brydain

Mae bod yn egnïol yn bwysig i’n hiechyd a’n llesiant, ond gall llawer o swyddi olygu ein bod yn llonydd trwy gydol y diwrnod gwaith, yn enwedig os ydym yn gweithio mewn swyddfa.

Mae Ar Eich Traed Brydain yn rhoi cyfle i chi annog gweithwyr i symud mwy yn y gwaith.

Dyma rai o fanteision gweithle egnïol:

  • Gwella llesiant corfforol a meddyliol gweithwyr
  • Lleihau’r risg o broblemau cyhyrysgerbydol , blinder a straen yn y gweithle
  • Cynyddu lefelau egni, ffocws a chynhyrchiant gweithwyr

Ymgysylltu â staff ar ddiwrnod Ar Eich Traed Brydain

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gael eich gweithle i gymryd rhan yn niwrnod Ar Eich Traed Brydain.

Dyma rai ffyrdd hawdd o gymryd rhan:

Sefydlu her yn y gweithle

Mae cystadlaethau cyfeillgar, fel her camau, yn gallu annog eich gweithwyr i symud mwy.

Trefnu sesiwn gerdded neu sesiwn ffitrwydd awr ginio

Defnyddio’r diwrnod fel cyfle i gynnal gweithgareddau i gael gweithwyr i symud trwy gydol y dydd. Bydd mynd allan i’r awyr agored a chymdeithasu gyda chydweithwyr hefyd yn rhoi hwb i lesiant meddyliol gweithwyr.

Bod yn gynhwysol

Darparu gweithgareddau sy’n addas ar gyfer gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.

Cefnogi gweithle egnïol drwy gydol y flwyddyn

Un diwrnod yw Ar Eich Traed Brydain, ond mae annog symud yn y gwaith yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud trwy gydol y flwyddyn.

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i wneud eich gweithle yn fwy egnïol:

Gwneud symudiad yn rhan o ddiwylliant y gweithle

Annog eich staff i gymryd seibiannau rheolaidd, ymestyn, cerdded neu symud bob awr, hyd yn oed os ydyn nhw’n eistedd.

Annog eich gweithwyr i ddefnyddio grisiau, desgiau sefyll a chyfarfodydd cerdded.

Gwneud yn siŵr bod gweithgareddau’n cynnwys opsiynau ar gyfer gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.

Rhannu adnoddau

Defnyddio sianeli cyfathrebu â staff i rannu awgrymiadau syml a gwybodaeth am fod yn egnïol.

Gallai hyn gynnwys rhannu ymestyniadau a symudiadau y gall eich gweithwyr eu gwneud wrth eu desgiau.

Hyrwyddo opsiynau teithio gwyrdd

Annog eich gweithwyr i feicio i’r gwaith neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gall hyn hefyd helpu eich gweithle i fod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Darganfyddwch fwy am weithleoedd egnïol.

Darganfyd mwy

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan a chael adnoddau ar wefan Ar Eich Traed Brydain.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch