Loading Digwyddiadau

Diwrnod Aer Glân

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch am bwysigrwydd mynd i'r afael â llygredd aer yn y gweithle, ffyrdd o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Aer Glân a sut i greu amgylchedd glanach, iachach i weithwyr.

Gwerth cefnogi Diwrnod Aer Glân

Trwy gymryd rhan yn Niwrnod Aer Glân, gall cyflogwyr helpu i leihau lefelau llygredd, creu gweithle iachach a dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd.

Dyma rai o’r manteision:

  • Diogelu iechyd gweithwyr – mae ansawdd aer gwael yn gysylltiedig â chlefydau anadlol a chyflyrau iechyd difrifol eraill. Gall annog arferion aer glân helpu i gynnal gweithlu iachach.
  • Cefnogi nodau cynaliadwyedd – gall sefydliadau sy’n gweithio tuag at dargedau sero net sicrhau bod eu mentrau yn cyd-fynd â Diwrnod Aer Glân er mwyn dangos cyfrifoldeb corfforaethol.
  • Gwella enw da cyflogwr – mae cwmnïau sy’n blaenoriaethu iechyd a lles amgylcheddol yn fwy deniadol i weithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Cymryd rhan yn Niwrnod Aer Glân

Gall cyflogwyr gymryd camau syml, effeithiol i leihau llygredd aer ac ymgysylltu â staff mewn mentrau aer glân.

Dyma rai ffyrdd o gynnwys eich gweithle:

Cynnal digwyddiad

Trefnwch ddigwyddiad i ddathlu Diwrnod Aer Glân a chodi ymwybyddiaeth am lygredd aer. Lawrlwythwch becyn digwyddiadau Diwrnod Aer Glân (Saesneg yn unig) i gael syniadau ac adnoddau.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Addysgwch eich staff a rhannwch adnoddau ar lygredd aer a newidiadau syml y gallant eu gwneud i gyfrannu at yr amgylchedd.

Annogwch gweithwyr i siarad am lygredd aer, gofyn cwestiynau a rhannu adnoddau fydd yn ddefnyddiol i eraill.

Dathlu llwyddiant

Defnyddiwch Ddiwrnod Aer Glân fel cyfle i rannu’r pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud i fynd i’r afael â llygredd aer yn eich gweithle.

Dylech gydnabod cyfraniadau gweithwyr trwy dynnu sylw at arfer da mewn cylchlythyrau, ar gyfryngau cymdeithasol neu mewn cyfarfodydd staff.

Creu diwylliant gweithle cadarnhaol y tu hwnt i Ddiwrnod Aer Glân

Er bod Diwrnod Aer Glân yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth, gall cyflogwyr hefyd ymgorffori arferion cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.

Fel cyflogwr, dyma bethau y gallech eu hystyried:

  • Darparwch addysg a hyfforddiant parhaus ar gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Buddsoddwch yn seilwaith y gweithle, gan gynnwys awyru gwell, offer sy’n arbed ynni a phlanhigion puro aer sy’n creu aer glanach
  • Anogwch gymudo egnïol, fel cerdded neu feicio, fel menter hirdymor
  • Partnerwch â sefydliadau lleol ar ymgyrchoedd aer glân

Dysgwch fwy am weithleoedd cynaliadwy.

Darganfod mwy

I ddysgu mwy am sut y gall eich gweithle gefnogi Diwrnod Aer Glân, ewch i wefan Action for Cleaner Air (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch