
Wythnos Diabetes
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Diabetes i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes, rhannu awgrymiadau ac adnoddau a chefnogi gweithwyr sydd â diabetes.
Gwerth cefnogi Wythnos Diabetes yn y gwaith
Mae Wythnos Diabetes yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir gan Diabetes UK. Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o ddiabetes a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda diabetes.
Mae nifer o fanteision i gefnogi Wythnos Diabetes yn eich gweithle, gan gynnwys:
- Mwy o ymwybyddiaeth o ddiabetes
- Mwy o ymgysylltiad ymhlith y gweithwyr
- Gwell morâl
Cymerwch ran yn Wythnos Diabetes yn y gwaith
Mae yna lawer o ffyrdd y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Diabetes.
Dyma ychydig o syniadau:
Codi ymwybyddiaeth
Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i rannu gwybodaeth am ddiabetes i ledaenu ymwybyddiaeth.
Ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau.
Trefnu gweithdy
Gwahoddwch weithiwr gofal iechyd proffesiynol i siarad â gweithwyr am ddiabetes. Gall gwneud hyn fod yn ffordd dda o addysgu am reoli ac atal diabetes.
Annog profion iechyd
Rhannwch wybodaeth am brofion iechyd diabetes ac anogwch weithwyr â diabetes i gael eu profion iechyd diabetes.
Gall cael sgyrsiau agored am brofion iechyd diabetes hefyd leihau stigma a chynyddu ymwybyddiaeth.
Diabetes yn y gweithle
Mae’n beth gwych nodi Wythnos Diabetes yn eich sefydliad, ond gallwch hefyd gymryd camau i gefnogi gweithwyr drwy gydol y flwyddyn.
Dyma rai pethau y gallech eu hystyried yn eich gweithle:
Gwnewch addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr sydd â diabetes
- Hyrwyddwch arferion iach yn y gweithle
- Anogwch sgrinio cynnar a chynnig cymorth
- Codwch ymwybyddiaeth ac anogwch gyfathrebu agored
Darganfyddwch fwy am gymorth i weithwyr gyda diabetes.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Diabetes, ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch