
Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Lleoliad
- Microsoft Teams
Ymunwch â Gweminar Cymru Iach ar Waith (CIW) Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr – Yn ôl oherwydd Galw Mawr!
Yn dilyn diddordeb mawr a’r adborth cadarnhaol a gafwyd yn dilyn ein sesiwn flaenorol, mae Cymru Iach ar Waith yn falch o gynnig ail gyfle i ymuno â’n gweminar am ddim: Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr.
Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.
Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb.
- Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
- Amser: 10:30 – 11:30
- Platfform: Microsoft Teams
Gallwch gymryd rhan am ddim.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU
- Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
- Mewnwelediadau gan Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
- Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.
Siaradwyr
- Nikki Davies, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
- Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: [email protected].
Cofrestrwch erbyn dydd Mercher 4 Mehefin.
- Gweminar