Mehefin 2025
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm CIW. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr
- E-ddysgu Rheoli Absenoldeb Salwch
- Cymru Iach ar Waith yn chwilio am eich storïau o lwyddiant!
- Apiau GIG Cymru am ddim ar gyfer Atal a Rheoli Diabetes
- Dweud eich dweud: Helpu i lunio Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl
- Llywodraeth Cymru yn ehangu’r rhaglen sgiliau hyblyg yn sylweddol
- Dyddiadau ymgyrchoedd Gorffennaf
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’n gweminar MSA yr wythnos ddiwethaf – gobeithio eich bod yn meddwl bod y sesiwn yn un werthfawr!
Ymhlith y pynciau allweddol a drafodwyd roedd:
- Tueddiadau o ran absenoldeb salwch yng Nghymru a’r DU
- Ymgysylltu â gweithwyr iddynt ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
- Mewnwelediad gan Melin Homes (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
- Mynediad at adnoddau, gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar MSA
Diolch i Nikki a Deanna, ein Cynghorwyr Iechyd yn y Gweithle am gynnal y weminar ac i Melin Homes (Hedyn) am ganiatáu inni gynnwys eich mewnwelediadau yn ystod y sesiwn.
Bydd recordiad ar gael ar ein gwefan yn fuan.
Gallwch hefyd ymweld â’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am rheoli absenoldeb salwch.
Gweminar teithio llesol – cadwch y dyddiad!
Cynhelir ein gweminar nesaf ar 17 Medi 2025 – byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer lle, cyn bo hir!
E-ddysgu Rheoli Absenoldeb Salwch

Gall rheoli absenoldeb salwch fod yn her i fusnesau bach a busnesau sy’n tyfu.
Mae ein modiwl e-ddysgu 20 munud sydd am ddim wedi’i gynllunio i roi strategaethau ymarferol i chi reoli absenoldeb gan gefnogi iechyd a chynhyrchiant eich tîm.
Beth sydd yn y modiwl?
- Rheoli absenoldeb yn rhagweithiol: Strategaethau syml i leihau absenoldeb.
- Dadansoddi data absenoldeb salwch: Pwysigrwydd olrhain a dehongli tueddiadau absenoldeb
- Awgrymiadau ynghylch cyfathrebu: Cynnal cyfathrebu agored gyda gweithwyr
- Cyngor arbenigol: Cynnal cydymffurfiaeth â chyfreithiau cyflogaeth
Datblygwyd y modiwl mewn partneriaeth â Busnes Cymru ac mae ar gael ar blatfform BOSS Busnes Cymru.
Cymru Iach ar Waith yn chwilio am eich storïau o lwyddiant!

Oes gennych chi enghreifftiau o arferion da yr hoffech eu rhannu? Os oes, rydyn ni eisiau clywed gennych!
Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau o fywyd go iawn o sut mae sefydliadau wedi mynd i’r afael â materion iechyd a llesiant pwysig yn eu gweithleoedd i’w rhoi ar ein gwefan ac ar blatfformau eraill.
Drwy rannu eich llwyddiannau, gallwch ysbrydoli eraill i wella iechyd a llesiant yn y gweithle, yn ogystal â hybu cydweithio a pherfformiad.
Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected].
Apiau GIG Cymru am ddim ar gyfer Atal a Rheoli Diabetes
Mae tri ap am ddim bellach ar gael trwy GIG Cymru i helpu i atal a rheoli diabetes Math 2.
Mae un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn byw gyda diabetes neu gyflwr cyn-ddiabetes. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cefnogaeth werthfawr i’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rheiny sydd mewn perygl.
- Mae ei nodweddion allweddol yn cynnwys:
- Dangosfyrddau olrhain wythnosol
- Modiwlau dysgu rhyngweithiol
- Offer olrhain gweithgarwch
- Cyngor arbenigol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol
- Gosod nodau a heriau
- Mynediad at gymuned gefnogol o dros 60,000 o ddefnyddwyr
- Gallwch hefyd wahodd aelodau o’r teulu i ymuno â chi ar y platfformau. Bydd hyn yn creu rhwydwaith cymorth sydd wedi’i brofi i wella canlyniadau’n sylweddol.
Sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn?
Gall pawb yng Nghymru lawrlwytho’r apiau hyn yn rhad ac am ddim drwy lenwi ffurflen ar-lein syml:
- MyDESMOND Cymru – ar gyfer pobl sydd â diagnosis Math 2
- Let’s Prevent Cymru – ar gyfer pobl sydd â chyn-ddiabetes neu sydd â diabetes yn ystod beichiogrwydd.
Byddwch angen eich rhif GIG, sydd i’w gael ar ap GIG Cymru, presgripsiwn diweddar, llythyr apwyntiad neu gallwch ofyn i’ch practis meddyg teulu.
Am ragor o wybodaeth, ewch I wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dweud eich dweud: Helpu i lunio Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi uchelgais clir i wella cynhwysiant, cyfranogiad a hawliau pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd — gan gynnwys cyflogaeth.
Fel cyflogwr yng Nghymru, mae eich llais yn bwysig. Rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth greu gweithleoedd cynhwysol sy’n galluogi pobl anabl i ffynnu. Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle chi i helpu i lunio polisïau’r dyfodol sy’n cefnogi gwell mynediad at gyflogaeth, triniaeth deg a datblygiad gyrfa hirdymor i unigolion anabl.
Pam cymryd rhan?
- Helpu i lywio polisïau sy’n cefnogi recriwtio cynhwysol ac arferion gweithleoedd
- Sicrhau bod anghenion a safbwyntiau cyflogwyr yn cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau cenedlaethol
- Cyfrannu at Gymru decach a mwy cyfartal lle gall pawb gyflawni eu potensial
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad heddiw
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 7 Awst 2025, ac rydym yn annog pob cyflogwr — mewn sefydliadau mawr a bach — i ymateb.
I ddarllen y cynllun a rhannu eich barn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru yn ehangu’r rhaglen sgiliau hyblyg yn sylweddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer ei Rhaglen Sgiliau Hyblyg, gan gynyddu’r buddsoddiad blynyddol o £1.3 miliwn i fwy na £7.5 miliwn. Nod y gwelliant hwn yw mynd i’r afael â phrinder sgiliau drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi achrededig i weithwyr ledled Cymru. Gall cyflogwyr nawr gael mynediad at grantiau sy’n talu 50% o gostau hyfforddi, hyd at £50,000 fesul busnes y flwyddyn, i gefnogi uwchsgilio mewn sectorau allweddol fel peirianneg, digidol, technolegau gwyrdd ac arweinyddiaeth.
Pwysleisiodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau, rôl y rhaglen wrth gefnogi busnesau Cymru i fuddsoddi yn eu gweithlu, gan ddatgan, “Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu huchelgais a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.”
Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, ewch i gyhoeddiad swyddogol Llywodraeth Cymru.
Dyddiadau ymgyrchoedd Gorffennaf
Gorffennaf Di Blastic (1-31 Gorffennaf)
Mae Gorffennaf Di Blastic yn fudiad byd-eang sy’n grymuso pobl i leihau llygredd plastig er mwyn cael amgylchedd glanach. Gall eich busnes chwarae ei ran hefyd:
- Rhoi mentrau ar waith i leihau’r defnydd o blastig yn y gweithle
- Addysgu gweithwyr am arferion cynaliadwy
- Annog cyfranogiad mewn heriau i leihau’r defnydd o blastig untro
Edrychwch i weld sut gall eich gweithle gymryd rhan yn y fenter Gorffennaf Di Blastig.
Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol (9-13 Gorffennaf)
Thema: Deall Niwed Alcohol yn y Gweithle
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, dan arweiniad Alcohol Change UK, yn gyfle gwerthfawr i gyflogwyr hyrwyddo dewisiadau iachach, codi ymwybyddiaeth am effaith alcohol ar lesiant, a chefnogi diwylliant agored a chefnogol.
Gall cyflogwyr gymryd rhan drwy godi ymwybyddiaeth drwy gyfathrebu mewnol, cynnal sesiynau addysgol, cyfeirio at wasanaethau cymorth, ac adolygu polisïau alcohol yn y gweithle i hyrwyddo amgylchedd gwaith iachach a mwy cefnogol.
Dysgwch fwy ar dudalen ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol.
Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.