Loading Digwyddiadau

Bore Coffi Macmillan

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut i gefnogi Bore Coffi Macmillan yn eich gweithle, manteision cymryd rhan a sut i gael pecyn am ddim i gynnal bore coffi yn y gwaith.

Gwerth cynnal Bore Coffi Macmillan yn y gwaith

Gall canser gael effaith sylweddol ar lesiant gweithwyr a’u perfformiad yn y gwaith. Mae cyflogwyr sy’n cynnig cymorth yn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cynhyrchiol.

Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:

  • Gweithwyr sydd â chanser yn teimlo gwelliant o ran eu llesiant a’u hyder
  • Diwylliant mwy cynhwysol a chefnogol yn y gweithle
  • Cryfhau enw da cyflogwr am gefnogi llesiant y gweithlu

Sut i gymryd rhan yn y Bore Coffi Macmillan

Mae cynnal bore coffi Macmillan yn y gwaith yn hawdd.

Gallwch gofrestru i gynnal Bore Coffi (dolen Seasneg yn unig) a chynnal bore coffi pryd bynnag sy’n gyfleus i chi a’ch gweithle.

Cyn eich Bore Coffi

  • Gallwch lawrlwytho adnoddau, gan gynnwys posteri Cymraeg, o wefan Macmillan (dolen Saesneg yn unig) i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich diwrnod mawr.
  • Gosodwch wahoddiad calendr fel bod pawb yn gwybod pryd mae eich bore coffi yn digwydd.

Ar y diwrnod

  • Dewch â’ch gweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid at ei gilydd i fwynhau coffi a helpu i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser.
  • Mae cael hwyl, bwyd a gemau yn mynd i fod yn boblogaidd gyda phawb. Cofiwch gynnwys opsiynau iach ac ystyried anghenion dietegol gwahanol. Dysgwch fwy am fwyta’n iach yn y gwaith.
  • Beth am ymgorffori gweithgareddau iach hefyd fel taith feicio neu gerdded cyn neu ar ôl y bore coffi. Dysgwch fwy am weithleoedd egnïol.
  • Codwch arian hanfodol a dathlu eich llwyddiant!

Darganfod mwy

I ddarganfod mwy am gynnal bore coffi yn y gwaith, ewch i wefan Macmillan (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch