
Wythnos Addysgwyr Oedolion
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgu sut y gall cyflogwyr gefnogi Wythnos Addysg Oedolion a manteisio ar y cyfle i rannu cyfleoedd dysgu yn y gweithle i hybu datblygiad gweithwyr.
Gwerth cefnogi Wythnos Addysgwyr Oedolion yn y gwaith
Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer gwaith a thrwy gydol eu hoes.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Mae cefnogi Wythnos Addysg Oedolion yn eich gweithle o fudd i’ch gweithwyr a’ch busnes.
Mae manteision buddsoddi yn natblygiad eich gweithwyr yn cynnwys:
- Gwell ymgysylltiad gan weithwyr a gwell cynhyrchiant
- Arweinyddiaeth gryfach
- Enw da, sy’n helpu i ddenu’r dalent orau
- Arbed arian drwy gadw staff yn hirach.
Dysgu mwy am ddatblygiad gweithwyr.
Ffyrdd o gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion yn y gwaith
Dyma rai ffyrdd y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion:
Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
Annog sgyrsiau agored am addysg oedolion, y manteision a pha gefnogaeth y gall eich gweithle ei chynnig.
Gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr yn ymwybodol o’r ffyrdd y gallant gael cyfleoedd i hybu eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Dysgu mwy am ddatblygiad gweithwyr.
Hyrwyddo digwyddiadau a chyrsiau
Rhannu cyfleoedd dysgu a chaniatáu amser i weithwyr gymryd rhan.
Ewch i wefan Wythnos Addysg Oedolion i ddod o hyd i ddigwyddiadau a chyrsiau.
Dathlu llwyddiant
Os oes gennych weithwyr sydd eisoes wedi elwa o addysg oedolion, rhannwch eu llwyddiant i ysbrydoli eraill.
Gofynnwch i weithwyr siarad am eu profiad o addysg oedolion gyda’u cydweithwyr i ysgogi eraill i fanteisio ar addysg oedolion.
Ewch i gael ysbrydoliaeth gan y straeon dysgwyr hyn.
Datblygiad gweithwyr
Drwy wneud amser ar gyfer addysg a hyfforddiant yn eich gweithle, gallwch chi adeiladu tîm medrus a brwdfrydig. Bydd hyn hefyd yn helpu eich busnes i lwyddo yn y tymor hir.
Dyma rai camau syml i hyrwyddo datblygiad gweithwyr yn eich gweithle:
- Rhoi arweiniad gyrfa ac adborth
- Gwneud dysgu’n hawdd ac yn hygyrch
- Hyrwyddo cyfleoedd a dathlu llwyddiant
Dysgu mwy am ddatblygiad gweithwyr.
Darganfod mwy
Ewch i weld sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion a chael gafael ar adnoddau defnyddiol ar wefan Wythnos Addysg Oedolion.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch