
Diffygiad a blinder yn y gweithle
Deall sut i adnabod a rheoli diffygiad a blinder yn y gweithle. Archwilio camau y gall cyflogwyr eu cymryd i wella lles a chynhyrchiant.
Adnabod arwyddion a symptomau o ddiffygiad a blinder
Gall cefnogaeth gynnar atal diffygiad rhag cynyddu.
Dylai rheolwyr a chydweithwyr edrych allan am:
-
Symptomau corfforol
- teimlo’n flinedig neu’n ddiegni y rhan fwyaf o’r amser
- anhunedd ac anhwylderau cysgu cyson
- cur pen aml
- poen cyhyrau neu gymalau
- teimlo’n sâl neu ddiffyg awydd bwyd
- salwch aml
- pwysedd gwaed uchel
- problemau anadlu
-
Symptomau emosiynol
- teimlo’n ddiymadferth/wedi trapio/ wedi trechu
- hunan-amheuaeth
- teimlo’n ddatgysylltiedig ac yn unig yn y byd
- teimlo wedi llethu
- teimlo’n diffyg cymhelliant/negyddol
- diffyg ymdeimlad o foddhad a chyflawniad
- colli diddordeb a mwynhad
- teimlad parhaus o ofn a phryder
-
Symptomau ymddygiadol
- oedi a chymryd mwy o amser i gwblhau pethau
- anhawster canolbwyntio
- lleihad mewn allbwn a chynhyrchiant,
- dod yn ynysig a thynnu’n ôl
- dibynnu ar fwyd neu alcohol/cyffuriau i ymdopi
- anniddig a byr-dymer
- bod yn hwyr i’r gwaith
- mwy o absenoldeb
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Awst 2025
