Digwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Lleoliad
- Public Health Wales
Rydym yn lansio pennod newydd i Cymru Iach ar Waith, ac rydym am i chi fod yn rhan ohoni! Ymunwch â ni i ddysgu am ein gwasanaethau ac adnoddau newydd, rhad ac am ddim, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi iechyd a llesiant mewn busnesau ledled Cymru.
Beth i’w ddisgwyl
Yn ystod y bore, byddwch yn dysgu am ein Hofferyn Arolwg Cyflogwyr newydd, Cymorth Cynghorwyr yn y Gweithle a Rhaglen Mentora Cymheiriaid, yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol ac yn cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol am weithwyr ifanc (16-24).
Darperir lluniaeth, gan gynnwys bwffe brecwast, a bydd cyfle i rwydweithio â sefydliadau eraill o bob cwr o Gymru a fydd yn bresennol.
Mae agenda lawn i ddilyn.
Siaradwyr
Yn ystod y bore, bydd y canlynol yn ymuno â ni:
Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Ar 11 Medi 2024, penodwyd Sarah yn Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Cyn cael ei hethol, graddiodd Sarah o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gydag MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas a bu’n gweithio i’r Labordy Cyfiawnder Data. Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd llywodraethau’r DU a llywodraethau rhyngwladol o ddata mawr a dulliau dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â deallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Transfer: European Journal of Labour and Research.
Fel Gweinidog, mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Niwroamrywiaeth
- Anabledd dysgu
- Gwasanaethau caethiwed
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Tybaco a Fepio
- Camddefnyddio sylweddau
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru
- Arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd
- Iechyd menywod
- Iechyd Aelodau a Chyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog
- Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
Yr Athro Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Iechyd a Llesiant

Jim McManus yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd (ADPH) sy’n cynrychioli llais proffesiynol Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ar draws y DU. Am 11 mlynedd a hanner bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yn Swydd Hertford. Mae wedi gweithio mewn llywodraeth leol, y trydydd sector, y GIG a’r sector masnachol. Gwasanaethodd ar Fwrdd ADPH am 9 mlynedd mewn rolau amrywiol sy’n cynnwys Is-lywydd, gan arwain ar Wella dan Arweiniad y Sector a Gwella Ansawdd ym maes Iechyd y Cyhoedd a mwy.
Mae Jim yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Swydd Hertford ac yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bryste. Mae’n Is-lywydd Anrhydeddus Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.
Mae gan Jim Gymrodoriaeth Generation Q The Health Foundation ac astudiaethau ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth yn Ysgol Fusnes Ashridge ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau rhaglen arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Francisco de Vitoria, Madrid. Mae Jim yn Seicolegydd Siartredig, yn Wyddonydd Siartredig, yn Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus Cofrestredig UKPHR ac yn Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd

Mae Oliver yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn yr Is-adran Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Oliver yw Arweinydd Ymgynghorol Cymru Iach ar Waith, y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.
Mae Oliver wedi gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd ers chwe blynedd, ac yn y GIG ers 16 mlynedd.
Paul Billington, Rheolwr Iechyd a Llesiant y DU, Admiral

Mae Paul Billington yn bennaeth Iechyd a Llesiant yn Admiral.
Mae Paul a’i dîm yn gyfrifol am greu a chyflawni strategaeth y cwmni o ran llesiant cyfannol a llesiant yr holl gydweithwyr yn y DU.
Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Dros Dro Gwella Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Emily van de Venter yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac yn Gyfarwyddwr Dros Dro Gwella Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hi wedi gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd ers dros 15 mlynedd ac er bod ei phrofiad yn eang, mae hi’n arbenigo mewn dulliau poblogaeth o hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a lleihau anghydraddoldebau, gan adeiladu ar yr arbenigedd a enillodd o’i BSc mewn Niwrowyddoniaeth a’i MSc mewn Iechyd y Cyhoedd. Mae hi’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid nad ydynt yn ymwneud ag iechyd i gefnogi gweithrediad Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru, 2025-35.
Mae Emily yn arwain y rhaglen Hapus sy’n anelu at ysbrydoli a galluogi pobl i gymryd camau i wella llesiant meddyliol, gan fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar seicoleg gadarnhaol i ysgogi camau gweithredu ar lefel unigol a chymunedol i amddiffyn a gwella llesiant meddyliol.
Yn ystod pandemig COVID-19, arweiniodd Emily ar atal a rheoli achosion mewn gweithleoedd o fewn ardal Awdurdod Lleol yn Lloegr. Rhoddodd y rôl hon wybodaeth iddi ar ffyrdd o weithio mewn amrywiaeth o fusnesau a thystiodd i ymroddiad busnesau i ddiogelu iechyd a llesiant eu gweithwyr.
Stondinau
Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed gan dîm Cymru Iach ar Waith a sefydliadau eraill o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith.
Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad i unigolion a busnesau ar bob cam, o gychwyn busnes i’w dyfu.
Mae’r cymorth arbenigol hwn yn cynnwys cynllunio busnes, rheoli ariannol, cyngor adnoddau dynol, a marchnata, ac mae Busnes Cymru’n chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r strategaeth economaidd drwy feithrin entrepreneuriaeth ac annog twf busnes ledled Cymru.
RCS

Mae RCS yn gwmni dielw o Gymru sy’n darparu ystod o wasanaethau i helpu i drawsnewid bywydau a gweithleoedd trwy ganolbwyntio ar lesiant. Mae hyn yn cynnwys cymorth personol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith neu aros mewn gwaith oherwydd heriau iechyd, ochr yn ochr â hyfforddiant i helpu busnesau i greu amgylcheddau gwaith hapusach ac iachach i bawb.
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)

Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yw’r corff proffesiynol ar gyfer adnoddau dynol, dysgu a datblygu, datblygu sefydliadol, a phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â phobl – arbenigwyr mewn pobl, gwaith a newid.
Mae’r CIPD, sydd â mwy na 160,000 o aelodau ledled y byd, a chymuned gynyddol yn ymgysylltu â’i ymchwil, ei fewnwelediadau a’i ddysgu, yn darparu cyngor dibynadwy ac arwain agweddau annibynnol. Mae hefyd yn llais blaenllaw wrth hyrwyddo gwaith da sy’n creu gwerth i bawb.
Hapus

Mae Hapus yn ymgyrch genedlaethol sy’n anelu at hysbysu, ysbrydoli a galluogi oedolion, teuluoedd a chymunedau i gymryd camau i wella llesiant meddyliol. Mae Hapus yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar seicoleg gadarnhaol i hyrwyddo gweithredu ar draws 8 Ffordd at Lesiant:
- Cysylltiadau
- Dysgu
- Iechyd Corfforol
- Meddyliau a Theimladau
- Hanes a Threftadaeth
- Creadigrwydd
- Hobïau a Diddordebau
- Natur.
Mind ym Mhowys

Mae Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith Powys yn darparu cymorth i’r rhai sy’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig (gan gynnwys pobl sydd i ffwrdd o’r gwaith ar absenoldeb salwch) i wneud gwelliannau i’w hiechyd meddwl neu gorfforol. Mae’r cymorth a roddir yn gyfannol ac yn cael ei arwain gan eich anghenion.
Mae Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith Powys hefyd yn cynnig cymorth i fusnesau i’w galluogi i greu gweithleoedd hapusach ac iachach.
Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB)

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn rhoi llais cryf unedig i fusnesau bach, gan sicrhau bod llais busnesau bach yn cael ei glywed ar lefelau llywodraeth leol, Cymru a’r DU a chan benderfynwyr allweddol eraill.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach hefyd yn trefnu digwyddiadau o wahanol fathau i helpu busnesau bach, ac yn darparu ystod o wasanaethau cymorth busnes hanfodol i helpu busnesau bach i gyflawni eu huchelgeisiau.
Case UK

Mae Case-UK CIC yn gwmni buddiant cymunedol a sefydlwyd yn 2016, sy’n darparu cymorth arbenigol ym maes iechyd, llesiant a chyflogadwyedd ledled Cymru a de-orllewin Lloegr. Mae Case-UK, sy’n defnyddio dull tosturiol, sy’n canolbwyntio ar y person, wedi’i lunio gan aelodau’r tîm sydd â phrofiad bywyd, yn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau iechyd corfforol a meddyliol i gael gwaith, ei gynnal neu ddychwelyd iddo.
Drwy ei dair rhaglen allweddol – y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, y Gwasanaeth Allan o Waith, ac Able Futures – mae’n darparu mynediad cyfrinachol am ddim at therapi, mentora, ac arweiniad ymarferol i bobl sydd mewn neu allan o gyflogaeth.
Gyda’i gilydd, mae’r gwasanaethau hyn yn ffurfio rhwydwaith cymorth cyfannol sy’n grymuso unigolion i wella, aros yn iach, a ffynnu yn y gwaith, gan greu cymunedau iachach, hapusach a mwy gwydn.
Manylion
Rydym yn gyffrous i ddweud bod ein digwyddiad lansio bellach yn llawn!
Diolch i bawb sydd wedi cofrestru. Edrychwn ymlaen i chi ymuno â ni a byddwn yn cysylltu gyda manylion cyn bo hir.
Os ydych wedi colli allan ar le, gallwch ymuno â’n rhestr wrth gefn a byddwn yn cysylltu os bydd lleoedd yn dod ar gael.
- Digwyddiad