Loading Digwyddiadau

Wythnos Genedlaethol Hunanofal

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Genedlaethol Hunanofal i godi ymwybyddiaeth o hunanofal a hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles yn y gwaith.

Gwerth cefnogi Wythnos Genedlaethol Hunanofal yn y gwaith

Mae Wythnos Genedlaethol Hunanofal yn wythnos sy’n cael ei chynnal pob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth bod gofalu am eich iechyd meddwl a chorfforol yn hanfodol ar gyfer lles cyffredinol.

Gall cymryd rhan yn Wythnos Hunanofal fod o fudd i weithwyr a’r sefydliad.

Gall gweithle sy’n cefnogi gweithwyr gyda hunanofal:

  • Greu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle
  • Gwella cadw gweithwyr a lleihau absenoldeb
  • Cynyddu perfformiad ac ymgysyllt

Ymgysylltu â gweithwyr yn ystod Wythnos Genedlaethol Hunanofal

Dyma rai ffyrdd y gall gweithleoedd gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Hunanofal:

Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth o hunanofal

Trefnu i arbenigwr gofal iechyd hunanofal, fel fferyllfa leol, i ddod i’ch gweithle i siarad am hunanofal.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i weithwyr hefyd i ofyn cwestiynau a dechrau sgwrs am hunanofal yn eich gweithle.

Trefnu gweithgareddau hunanofal

Gwnewch hunanofal yn brofiad braf a hwyliog trwy drefnu gweithgareddau yn eich gweithle.

Ystyriwch gynllunio heriau fesul cam, dosbarthiadau ffitrwydd, neu sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar i gadw staff yn teimlo ei fod yn berthnasol a’u bod am gymryd rhan.

Gallwch gael ysbrydoliaeth o’r Self-Care Week ideas guide.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Mae defnyddio eich dulliau arferol o gyfathrebu’n fewnol yn ffordd wych o rannu gwybodaeth ac adnoddau am hunanofal.

Rhannwch wybodaeth sydd ar gael o ffynonellau dibynadwy, fel:

Gellir defnyddio’r wythnos i dynnu sylw at yr angen am frechiadau a sgrinio.

Gallwch ymweld â gwefan y Fforwm Hunanofal i ddod o hyd i fwy o negeseuon a gwybodaeth am iechyd i’w rhannu yn ystod yr Wythnos Hunanofal (Saesneg yn unig).

Hyrwyddo hunanofal yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn

Trwy hyrwyddo hunanofal yn eich gweithle trwy gydol y flwyddyn, gallwch helpu i greu gweithlu iachach sy’n fwy parod i gymryd rhan.

Defnyddiwch ein rhestr o bynciau A-Z i gael mynediad at wybodaeth ac adnoddau am amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig â hunanofal, gan gynnwys:

Darganfod mwy

Ffeindiwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Hunanofal a chael adnoddau ar wefan y fforwm Hunanofal (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch