Loading Digwyddiadau

Wythnos Siarad am Arian

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Siarad am Arian i gychwyn sgwrs agored am arian a chyllid i helpu lles ariannol gweithwyr.

Gwerth cefnogi Wythnos Siarad am Arian yn y gwaith

Mae Wythnos Siarad am Arian yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).

Yn ystod Wythnos Siarad am Arian, gall gweithleoedd gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gallu helpu gweithwyr i gael sgwrs mwy agored am arian a pharhau gyda’r sgyrsiau hyn trwy gydol y flwyddyn.

Gallwch ddefnyddio’r wythnos hon fel cyfle i leihau stigma, herio agweddau at reolaeth ariannol a helpu gweithwyr i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae gweithle sy’n cefnogi gweithwyr gyda rheoli arian yn gallu:

  • Creu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth.
  • Helpu i atgyfnerthu gwydnwch gweithwyr
  • Lleihau absenoldeb a throsiant staff

Help ar gael i wybod mwy am lesiant ariannol yn y gweithle.

Awgrymiadau ar sut i fod yn rhan o’r Wythnos Siarad am Arian yn y gwaith

Yn y cyfnod cyn ac yn ystod Wythnos Siarad am Arian, gall cyflogwyr:

Rannu awgrymiadau a chyngor

Defnyddiwch eich dulliau cyfathrebu mewnol arferol i rannu awgrymiadau a chyngor am lesiant ariannol.

Rhannwch wybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel canllaw llesiant ariannol MaPS, neu ein podlediad lles ariannol yn y gweithle.

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Mind i dderbyn gwybodaeth Supporting the financial wellbeing of your employees and you (Saesneg yn unig).

Annog sgyrsiau agored

Gwnewch eich gweithle yn lle diogel i weithwyr rannu pryderon neu awgrymiadau am gyllid.

Bydd y sgyrsiau agored hyn yn helpu i chwalu’r stigma sy’n bodoli o gwmpas siarad am arian.

Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ariannol

Trefnu siaradwyr gwadd i drafod a rhoi cyngor fel rhai sy’n cynnig gwasanaethau cymorth ariannol yn lleol neu undebau credyd.

Am fwy o syniadau, ewch i wefan MaPS i lawrlwytho eu pecyn ar gyfer cymryd rhan.

Llesiant ariannol yn y gweithle

Fel cyflogwr, mae yna sawl dull ymarferol y gallwch eu cymryd i gefnogi llesiant ariannol eich gweithwyr trwy gydol y flwyddyn.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:

  • Cynnal sgyrsiau cyfrinachol a chefnogol
  • Dod yn gyflogwr gwaith teg
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o lesiant ariannol
  • Cyfeirio at wasanaethau cyngor ar ddyled, sy’n gyfrinachol ac yn annibynnol ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim
  • Rheoli newidiadau yn y gwaith

Help ar gael i wybod mwy am lesiant ariannol yn y gweithle.

Darganfod mwy

Ffeindiwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Siarad am

Arian a derbyn adnoddau ar wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch