Loading Digwyddiadau

Diwrnod Arthritis y Byd

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Arthritis y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o arthritis, ei symptomau a'r effaith ar weithwyr yn y gwaith.

Manteision cefnogi Diwrnod Arthritis y Byd yn y gwaith

Nod Diwrnod Arthritis y Byd ydy cynyddu gwybodaeth am fodolaeth ac effaith arthritis yn fyd-eang.

Gall anwybyddu arthritis a chyflyrau iechyd cyhyrysgerbydol cysylltiedig eraill, yn y gweithle, arwain at fwy o absenoldeb a gostyngiad mewn perfformiad.

Gall gweithle sy’n cefnogi gweithwyr ag arthritis a chyflyrau cysylltiedig:

  • Greu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth.
  • Cryfhau perthnasoedd yn y gweithle a gwaith tîm.
  • Sicrhau bod y gweithwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
  • Lleihau absenoldeb a gorweithio
  • Gwella cynhyrchiant ac ysbryd yn y gweithle

Dathlu Diwrnod Iechyd Arthritis y Byd yn y gwaith

Yn y cyfnod cyn ac yn ystod Diwrnod Arthritis y Byd, gall cyflogwyr:

Cynnal sesiynau sy’n creu ymwybyddiaeth o arthritis

Trefnu sgwrs neu weithdy yn eich gweithle i rannu cyngor ar reoli poen neu gyflwyno newidiadau mewn ffordd o fyw sy’n gallu lleihau effaith arthritis.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r sesiynau hyn fel cyfle i annog symud yn y gwaith i helpu gweithwyr i gynnal ystwythder cymalau.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Gallwch ddefnyddio eich dulliau cyfathrebu mewnol arferol i rannu gwybodaeth ac adnoddau am arthritis.

Hyrwyddo’r ffaith y gellir rheoli arthritis yn y gwaith a rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel:

Mae gan Versus Arthritis wybodaeth am iechyd cymalau (Saesneg yn unig) y gallwch ei rhannu â’r gweithwyr.

Rhannu straeon gweithwyr

Anogwch y gweithwyr i rannu eu profiadau gydag arthritis fel ffordd o ddechrau sgwrs agored yn eich gweithle.

Rhowch gyfle i rannu profiadau fydd yn helpu’r gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a chreu diwylliant o ddealltwriaeth yn eich gweithle.

Cefnogi gweithwyr ag arthritis trwy gydol y flwyddyn

Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch eu gwneud trwy gydol y flwyddyn i gefnogi gweithwyr ag arthritis. Dyma rai awgrymiadau:

Dysgu mwy am arthritis

Gall gwella eich ymwybyddiaeth a’ch gwybodaeth am arthritis eich helpu i gefnogi gweithwyr gyda’r cyflwr.

Gallwch ddysgu am arthritis ar wefan NHS 111 Cymru.

Dysgwch fwy am iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle.

Hyfforddi rheolwyr llinell

Sicrhau bod rheolwyr wedi’u hyfforddi ar sut i gael trafodaethau empathig a chyfrinachol am gyflyrau iechyd fel arthritis.

Dysgwch fwy am gyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.

Hyrwyddo gwasanaethau cymorth

Hyrwyddo’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn eich gweithle. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth i weithwyr sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Cymryd Rhan

Ffeindiwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Arthritis y Byd a derbyn adnoddau ar wefan Arthritis Action (Saesneg yn unig).

I gael diweddariadau am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn eicn cylchlythyr.


  • Ymgyrch