Loading Events

Gweminar ADHD yn y Gwaith

Ymunwch â ni am Weminar diddorol ac addysgiadol ar ADHD yn y gweithle, lle byddwn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru hyrwyddo niwroamrywiaeth yn y gweithle.

Bydd Aimee Smith, ein siaradwr arbenigol, yn ein tywys drwy’r canlynol:

  • Beth yw Niwroamrywiaeth ac ADHD a pham mae’n bwysig i’r gweithle
  • Cydnabod cryfderau talent niwroamrywiol
  • Manteision gweithlu cynhwysol
  • Ffyrdd syml o gefnogi gweithwyr ag ADHD tra yn y gwaith
  • Sut i ddechrau neu adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes

Bydd Rhian Gleed – Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle ar gyfer Cymru Iach ar Waith – yn ymuno â hi i rannu enghreifftiau o’r hyn a all weithio i gefnogi gweithwyr yn eich sefydliad.

Bydd Aimee yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb byw ar ddiwedd y weminar. Anfonwch eich cwestiynau cyn i’r weminar ddod i ben.

  • Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025
  • Amser: 10:00 – 11:00
  • Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.


  • Gweminar