Loading Digwyddiadau

Diwrnod Diabetes y Byd

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Diabetes y Byd i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes, rhannu awgrymiadau ac adnoddau a chefnogi gweithwyr sydd â diabetes.

Gwerth cefnogi Diwrnod Diabetes y Byd yn y gwaith

Mae Diwrnod Diabetes y Byd yn ddigwyddiad blynyddol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o diabetes Math 1 a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda diabetes Math 1.

Mae nifer o fanteision i’ch gweithle chi o gefnogi Diwrnod Diabetes y Byd, sy’n cynnwys:

  • Mwy o ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1
  • Mwy o ymgysylltiad ymhlith y gweithwyr
  • Gwell morâl

Cymryd rhan yn Niwrnod Diabetes y Byd yn y gwaith

Mae yna sawl ffordd y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Diabetes y Byd.

Dyma syniad neu ddau:

Codi ymwybyddiaeth

Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i rannu gwybodaeth am ddiabetes i ledaenu ymwybyddiaeth.

Ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau.

Trefnu gweithdy

Gwahoddwch weithiwr gofal iechyd proffesiynol i siarad â gweithwyr am ddiabetes. Gall gwneud hyn fod yn ffordd dda o ddysgu sut mae rheoli diabetes.

Annog profion iechyd

Rhannwch wybodaeth am brofion iechyd diabetes ac anogwch y gweithwyr sydd â diabetes i gael eu profion iechyd diabetes.

Gall cael sgwrs agored am brofion iechyd diabetes hefyd leihau stigma a chynyddu ymwybyddiaeth.

Diabetes yn y gweithle

Gallwch gymryd camau i gefnogi gweithwyr sy’n byw gyda diabetes trwy gydol y flwyddyn.

Dyma rai pethau y gallech eu hystyried yn eich gweithle:

  • Gwnewch addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr sydd â diabetes
  • Hyrwyddwch arferion iach yn y gweithle
  • Anogwch sgrinio cynnar a chynnig cymorth
  • Codi ymwybyddiaeth ac annog cyfathrebu agored

Mwy o wybodaeth am gymorth i weithwyr gyda diabetes.

Mwy o wybodaeth

I wybod mwy am sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Diabetes y Byd, ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig).

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer derbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch