
Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol i hyrwyddo ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth am symptomau ac annog sgrinio serfigol.
Pwysigrwydd cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol yn y gwaith
Bob blwyddyn, mae mwy na 3,200 o ferched yn cael diagnosis o ganser serfigol yn y DU (Saesneg yn unig). Gall effeithio ar bobl o bob oed, a gall ei ganfod yn gynnar trwy sgrinio serfigol achub bywydau.
Fel cyflogwr, gallwch chwarae rôl bwysig drwy:
- Lleihau ofnau a stigma ynghylch sgrinio serfigol
- Annog gweithwyr i gael mwy o wybodaeth a chael cymorth meddygol
- Cefnogi lles gweithwyr a meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth o iechyd
Trwy godi ymwybyddiaeth yn y gweithle, rydych chi’n helpu i greu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn blaenoriaethu eu hiechyd.
Sut i gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol yn y gwaith
Dyma rai ffyrdd y gallwch gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol yn eich gweithle:
Hyrwyddo sgrinio
Hyrwyddo manteision canfod yn gynnar ac annog gweithwyr sy’n cael eu gwahodd i gael sgrinio serfigol i fynd i’r apwyntiad.
Os oes gennych weithwyr sydd â rôl weithredol mewn hyrwyddo iechyd yn eich gweithle, gallan nhw gofrestru ar gyfer sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhannu gwybodaeth
Rhannwch pob gwybodaeth ac adnoddau trwy gyfrwng cylchlythyr mewnol, negeseuon e-bost i staff neu drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol yn y gweithle. Gall nodiadau atgoffa rheolaidd helpu i normaleiddio’r sgwrs a lleihau stigma.
Cynnal sgwrs
Rhowch wahoddiad i weithwyr iechyd proffesiynol i ymweld â’r gweithle i siarad am sgrinio serfigol ac ateb cwestiynau.
Gall digwyddiadau fel hyn annog sgyrsiau agored am iechyd a lles yn eich gweithle.
Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn
Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol yn gyfle gwerthfawr i dynnu sylw at y mater pwysig hwn, ond cofiwch mai ymwybyddiaeth barhaus sy’n cael yr effaith fwyaf.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:
Cynnal ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn
Mae’n bwysig rannu gwybodaeth am sgrinio serfigol a gwasanaethau sgrinio eraill y GIG drwy gyfrwng eich rhwydwaith arferol o gysylltu pawb gyda’i gilydd.
Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i dderbyn gwybodaeth am sgrinio yng Nghymru.
Cefnogi polisïau gwaith hyblyg
Gwnewch yn siŵr bod gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn mynd i apwyntiadau meddygol.
Am fwy am wybodaeth am weithleoedd hyblyg.
Gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol
Efallai y bydd darparwyr gofal iechyd lleol neu elusennau yn gallu cynnal sesiynau yn y gweithle. Gallai’r rhain gynnwys sgyrsiau, gweminarau neu weithdai.
Sgrinio Serfigol Cymru
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru. Mae eu gwefan yn dangos:
- Beth i’w ddisgwyl mewn apwyntiad
- Cwestiynau a ofynnir yn aml
- Adnoddau i weithwyr a chyflogwyr
Ewch i wefan Sgrinio Serfigol Cymru.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser Serfigol a derbyn adnoddau ewch i wefan Macmillan (Saesneg yn unig).
Cadwch lygad ar ymgyrchoedd iechyd a lles yn y dyfodol drwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch