Loading Digwyddiadau

Wythnos Maeth a Hydradiad

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
Lleoliad
UK-Wide

Mwy o wybodaeth o sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Maeth a Hydradiad annog bwyta ac yfed yn iach yn y gwaith i gefnogi lles a pherfformiad gweithwyr.

Gwerth hyrwyddo maeth a hydradiad yn y gwaith

Mae Wythnos Maeth a Hydradiad yn gyfle i hyrwyddo gwell arferion bwyta ac yfed yn y gweithle.

Mae annog bwyta’n iach a hydradu o fudd i weithwyr a chyflogwyr. Gall cefnogi’r arferion hyn yn y gwaith:

  • Arwain at wella lefelau egni a’r gallu i ganolbwyntio trwy gydol y dydd
  • Gwella lles meddyliol a lleihau lefelau straen
  • Creu diwylliant cadarnhaol ac awyrgylch gweithio brwdfrydig
  • Lleihau absenoldeb trwy atal blinder a salwch sy’n gysylltiedig â dadhydradiad
  • Cryfhau enw da’r sefydliad fel cyflogwr cyfrifol sy’n blaenoriaethu lles staff

Pam fod maeth a hydradiad yn bwysig yn y gweithle?

Gall maethiad gwael a dadhydradiad effeithio ar berfformiad yn y gweithle. Mae annog maethiad a hydradiad da yn helpu i greu gweithlu iachach, mwy eiddgar a brwdfrydig

Mae heriau cyffredin yn y gweithle’n cynnwys:

  • Blinder a diffyg ffocws a achosir gan ddadhydradiad neu ddiet gwael
  • Cynnydd mewn straen a newid mewn hwyliau
  • Cyfraddau uwch o absenoldeb sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â diet
  • Diffyg ymwybyddiaeth o gamau syml i gynnal hydradiad ac arferion bwyta iach

Camau y gall cyflogwyr eu defnyddio i gefnogi Wythnos Maeth a Hydradiad

Dyma rai camau y gallwch eu defnyddio i gefnogi Wythnos Maeth a Hydradiad yn eich gweithle:

Gweithdai addysgol neu ymuno â gweminar

Gwahodd arbenigwyr maeth neu ddietegwyr i siarad â’r gweithwyr. Gofynnwch iddyn nhw beth ydy manteision hydradu’n gyson a mabwysiadu diet cytbwys.

Annog hydradiad

Darparu gorsafoedd dŵr cyfleus a hyrwyddo’r defnydd o boeli y gellir eu hail-lenwi. Gallwch hefyd rannu negeseuon atgoffa am bwysigrwydd yfed digon.

Cynnig dewisiadau iachach

Gwneud yn siŵr bod dewisiadau bwyd iach ar gael ar gyfer ystafell y staff, peiriannau gwerthu bwyd ac yn y ffreutur. Cynnig dewisiadau sy’n addas ar gyfer pob galw a dymuniad dietegol

Hyrwyddo lles yn y gweithle

Cyflwyno sawl sialens hwyliog i annog gweithwyr i gymryd rhan. Adnabod gweithwyr sy’n angerddol am fwyta’n iach er mwyn ysbrydoli cydweithwyr.

Arwain trwy esiampl

Annog aelodau o’r timau arweinyddiaeth a rheolwyr i gymryd rhan. Bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu pwysigrwydd maeth a hydradiad da.

Cymryd Rhan

Am fwy o wybodaeth ar sut y gall eich gweithle gymryd rhan a derbyn adnoddau addas ewch i wefan Wythnos Maeth a Hydradiad (Saesneg yn unig).

Cewch ragor o wybodaeth am faeth a hydradiad yn y gwaith ar ein tudalen we bwyta’n iach yn y gweithle.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch