
Diwrnod Cwsg y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://worldsleepday.org/
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Cwsg y Byd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cwsg ar iechyd a lles a sut mae'n effeithio ar berfformiad yn y gwaith.
Pam mae cwsg yn bwysig yn y gweithle
Fel cyflogwr, gallwch wneud gwahaniaeth mawr trwy hyrwyddo arferion cysgu da. Gall colli cwsg effeithio ar ganolbwyntio, ansawdd gwaith ac iechyd.
Gall cwsg:
- Rhoi hwb i lefelau egni a ffocws, gan arwain at well perfformiad
- Lleihau straen a phryder, gan wella lles meddyliol
- Lleihau’r risg o wneud camgymeriadau a achosir gan flinder
- Helpu gweithwyr i gadw’n iach a cholli llai o ddyddiau o’r gwaith oherwydd salwch
Sut y gall cyflogwyr gefnogi Diwrnod Cwsg y Byd
Fel cyflogwr, gallwch gymryd camau syml i helpu gweithwyr i wella eu cwsg.
Codi ymwybyddiaeth
Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu arferol i rannu gwybodaeth gyda’r staff am Ddiwrnod Cwsg y Byd ac annog gweithwyr i gymryd rhan.
Rhannu syniad neu ddau i wella arferion cwsg
Rhannwch bosteri, canllawiau a negeseuon atgoffa digidol ynglŷn â pham mae cwsg yn bwysig.
Trefnu sgwrs neu weithdy
Gwahoddwch arbenigwr i siarad â’r gweithwyr am bwysigrwydd cwsg.
Cefnogi cwsg y tu hwnt i Ddiwrnod Cwsg y Byd
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd trwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo arferion cysgu da.
Gall hyn gynnwys:
- Cynnig adnoddau a hyfforddiant
- Annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Darparu trefniadau gwaith hyblyg
Dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud.
Mwy o wybodaeth
Dod o hyd i fwy o wybodaeth sut y gall eich gweithle gymryd rhan a derbyn adnoddau ar wefan World Sleep Day (Saesneg yn unig)
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch