Loading Digwyddiadau

Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd llygaid da ac annog gweithwyr i gael profion llygaid rheolaidd.

Gwerth cefnogi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn y gwaith

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid, gallwch ddefnyddio eich gweithle i leihau stigma a herio agweddau at golli golwg a helpu gweithwyr i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae creu diwylliant sy’n annog trafodaethau agored am iechyd llygaid da yn arwain at weithlu iachach, mwy ymrwymedig.
Gall gweithle sy’n cefnogi gweithwyr ag iechyd llygaid da:

Hyrwyddo lles

Mae iechyd llygaid da yn hanfodol i’n lles. Trwy godi ymwybyddiaeth ac annog profion llygaid rheolaidd, gallwch helpu gweithwyr i gynnal eu hiechyd, a all arwain at well cynhyrchiant a llai o ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith.

Gwella cynhyrchiant

Gall straen llygaid a phroblemau golwg effeithio’n sylweddol ar berfformiad gwaith. Gall mynd i’r afael â’r materion hyn trwy ymgyrchoedd addysgol a darparu adnoddau helpu gweithwyr i weithio’n fwy effeithlon a chyfforddus.

Codi ymwybyddiaeth

Dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol o bwysigrwydd profion llygaid rheolaidd ac effaith iechyd y llygaid ar eu bywydau bob dydd. Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn rhoi cyfle i addysgu gweithwyr am y materion hyn ac annog newid mewn arferion a fydd yn gwella iechyd y llygaid fel bwyta’n iach.

Atal anafiadau yn y gweithle

Gall anafiadau llygaid ddigwydd mewn gwahanol amgylcheddau gwaith. Gall hyrwyddo diogelwch llygaid a darparu sbectol amddiffynnol helpu i atal yr anafiadau hyn.

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid

Mae yna lawer o ffyrdd y gall gweithleoedd gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid.

Dyma rai awgrymiadau o bethau y gallwch eu gwneud yn y cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid:

Gwirio eich bod yn weithle sy’n ystyriol o olwg

Asesu a gwella’r sut mae gweithfannau a sgriniau arddangos wedi eu gosod yn eich gweithle er mwyn lleihau straen ar y llygaid.

Gall hyn gynnwys addasu goleuadau, darparu sgriniau gwrthddallu, ac annog seibiannau rheolaidd oddi wrth y sgrin.
Sicrhau bod asesiadau Cyfarpar Sgrin Arddangos yn gyfredol a bod unrhyw hyfforddiant perthnasol wedi’i gynnal.

Trefnu profion llygaid

Trefnwch i optegydd ymweld â’ch gweithle a chynnig profion llygaid am ddim i bob gweithiwr, nid dim ond y rhai sy’n defnyddio sgriniau arddangos.

Gall gwneud hyn helpu gweithwyr i ganfod unrhyw broblemau gyda’u golwg yn gynnar a chael cyngor proffesiynol ar gynnal iechyd y llygaid.

Darparu Adnoddau

Cynhaliwch ddigwyddiadau ar bynciau fel straen digidol ar y llygaid, pwysigrwydd profion llygaid rheolaidd ac awgrymiadau ar gyfer cynnal iechyd llygaid da (Saesneg yn unig).

Gwahoddwch eich darparwr iechyd galwedigaethol neu ddarparwr cymorth i weithwyr i gymryd rhan.

Sicrhewch fod adnoddau’n addas ar gyfer y rhai sydd ag amhariad ar y golwg.

Hyrwyddo Bwyta’n Iach

Hyrwyddwch fwydydd sy’n fuddiol i iechyd y llygaid, fel llysiau gwyrdd deiliog, pysgod sy’n llawn asidau brasterog omega-3, a ffrwythau sitrws.

Gallech drefnu cinio iach neu gynnig ryseitiau sy’n cefnogi iechyd y llygaid. Gallwch ddod o hyd i syniadau ar gyfer ryseitiau ar wefan Vision Matters (Saesneg yn unig).

Hyrwyddo rhoi’r gorau i ysmygu

Mae’r cysylltiad rhwng ysmygu a cholli golwg mor gryf â’r cysylltiad rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint.

Hyrwyddwch y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio i gefnogi’r gweithwyr hynny sy’n dymuno rhoi’r gorau i ysmygu.

Darganfyddwch fwy am gymorth ar gyfer gweithle di-fwg.

Hyrwyddo Sgrinio Llygaid Diabetig

Diabetes yw prif achos colli golwg, y byddai modd ei atal, yn y DU ond gall cyflyrau iechyd hirdymor eraill hefyd effeithio ar y golwg. Mae Sgrinio Llygaid Diabetig yn chwilio am glefyd llygaid diabetig cyn i unrhyw symptomau ddangos.

Os ydych chi neu’ch gweithwyr wedi cael diagnosis o ddiabetes, cewch eich gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig.

Darganfyddwch fwy am gymorth i weithwyr gyda diabetes.

Darganfod mwy

Dewch o hyd i sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid a chael adnoddau ar wefan Vision Matters (Saesneg yn unig).

I gael diweddariadau am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch