Rheoli gwrthdaro
Gall gwrthdaro yn y gwaith effeithio ar berfformiad a lles. Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion a chymryd camau cadarnhaol i gefnogi eich gweith
Achosion gwrthdaro yn y gwaith
Gall fod llawer o achosion o wrthdaro yn y gweithle.
Nododd ymchwil gan Acas yn 2025 (Saesneg yn unig) fod dros ddau o bob pum (44%) oedolyn o oedran gweithio ym Mhrydain Fawr wedi profi gwrthdaro yn y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.
Y pynciau mwyaf cyffredin oedd:
- Gallu a pherfformiad 38%
- Anghydfod personol a materion o ran perthnasoedd 33%
- Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu 24%
- Telerau ac amodau cyflogaeth 17%
- Camymddwyn 14%
Roedd profiad o wrthdaro’n fwyaf cyffredin ymhlith pobl y mae eu hanabledd wedi cael effaith fawr ar eu bywyd bob dydd (68%).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19th Chwefror 2026