Diwrnod AIDS y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://worldaidsday.org/
Dysgwch am Ddiwrnod AIDS y Byd a darganfod sut y gall cyflogwyr gefnogi'r ymgyrch yn y gweithle, codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma i bobl sy'n byw gyda HIV.
Gwerth cefnogi Diwrnod AIDS y Byd yn y gwaith
Mae Diwrnod AIDS y Byd yn cael ei gynnal ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o HIV ac AIDS a chefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.
Gall cefnogi’r ymgyrch helpu gweithleoedd i gefnogi gweithwyr, cynyddu ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma.
Trwy ddangos eich bod yn weithle cynhwysol, gallwch:
- Gynyddu ymgysylltiad gweithwyr
- Cadw staff yn well
- Gwella enw da’r cwmni.
Ffyrdd o gefnogi Diwrnod AIDS y Byd yn y gwaith
Gwisgwch y Rhuban Coch
Y Rhuban Coch yw’r symbol dros y byd o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda HIV.
Rhannwch wybodaeth am y Rhuban Coch gyda’ch gweithwyr drwy sianeli cyfathrebu a’u hannog i wisgo rhuban neu rywbeth coch ar y diwrnod.
Mae’r Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol yn anfon pecyn o 100 o rubanau defnydd coch yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n codi arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol yn y DU. Ewch i ddarganfod mwy am yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol (Saesneg yn unig).
Codwch ymwybyddiaeth
Mae gan yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol bosteri a negeseuon cyfryngau cymdeithasol (Saesneg yn unig) y gallwch eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth yn eich gweithle.
Mae ganddyn nhw hefyd gyflwyniad HIV parod (Saesneg yn unig) y gallech ei ddefnyddio mewn sesiwn codi ymwybyddiaeth yn y gwaith.
Rhannwch wybodaeth ac annog sgyrsiau
Cynyddwch wybodaeth am HIV ac AIDS yn eich gweithle trwy rannu gwybodaeth ac adnoddau.
Gall annog gweithwyr i gael sgyrsiau agored hefyd helpu i chwalu stigma ynghylch HIV ac AIDS.
I ddarganfod mwy am HIV ac AIDS, ewch i:
- Gwefan GIG 111 Cymru
- Iechyd Rhywiol Cymru
- Terrence Higgins Trust
- National AIDS Trust (Saesneg yn unig)
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gael cefnogaeth ar Ddiwrnod AIDS y Byd, ewch i wefan World AIDS Day (Saesneg yn unig).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch