Creu cyflogaeth gynhwysol yn Sight Cymru
Mae ffocws Sight Cymru ar gyflogaeth gynhwysol wedi creu gweithle lle gall gweithwyr sydd wedi colli eu golwg lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn hyderus ac yn gallu rhannu eu syniadau, gan helpu’r sefydliad i wella gwasanaethau i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Ynglŷn â Sight Cymru
Sight Cymru yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg. Ers 1865, mae’r elusen wedi helpu pobl â phob math o golled golwg i fyw gyda hyder, annibyniaeth ac urddas. Bob dydd, mae Sight Cymru yn cefnogi pobl sydd ag Amhariad Difrifol ar y Golwg (SSI), ag Amhariad ar y Golwg (SI), neu sydd mewn perygl o golli eu golwg. Mae’r elusen yn cynnig cymorth personol, cyngor ymarferol, a thechnoleg sy’n newid bywydau fel y gall pobl oresgyn heriau a mwynhau bywyd i’r eithaf.
Ond mae gwaith Sight Cymru yn mynd y tu hwnt i helpu unigolion. Mae’r elusen yn llais cryf dros gynhwysiant, gan weithio gyda chyflogwyr, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau i wneud gweithleoedd a bywyd bob dydd yn fwy hygyrch. Mae’n helpu i gael gwared ar rwystrau fel y gall pobl sydd wedi colli eu golwg gymryd rhan mewn addysg, gwaith a bywyd cymunedol yn union fel unrhyw un arall.
Mae Sight Cymru hefyd yn canolbwyntio ar atal colli golwg. Mae’r elusen yn cynnal ymgyrchoedd i ddiogelu iechyd llygaid a lleihau achosion o golli golwg y gellir eu hosgoi ledled Cymru. Trwy weithio’n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr ac elusennau eraill. Mae Sight Cymru yn cyfuno gwybodaeth, arloesedd a thosturi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Ers dros 150 o flynyddoedd, mae Sight Cymru wedi bod yn llais dibynadwy, yn ffynhonnell cryfder, ac yn symbol o obaith i bobl sydd wedi colli eu golwg, gan barhau â’i weledigaeth o fyd lle gall pawb, waeth beth fo lefel eu golwg, weld dyfodol llawn posibiliadau.
Darganfyddwch fwy ar wefan Sight Cymru (Saesneg yn unig).
Yr her
I weithwyr sydd wedi colli eu golwg, mae’r heriau yn y gwaith yn real ac yn digwydd bob dydd. Gall tasgau syml y mae eraill yn eu gweld yn hawdd, fel darllen papurau printiedig, defnyddio systemau digidol, neu ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas gweithle newydd, fod yn anodd heb yr offer a’r gefnogaeth gywir.
Yn Sight Cymru, roedd yr her hon yn nodi rhywbeth pwysig. Roedd yn ei gwneud yn glir bod angen mwy nag addasiadau corfforol yn unig ar weithwyr. Maent hefyd angen dealltwriaeth a pharch. Heb y cymorth cywir, gall tasgau bob dydd deimlo’n rhwystredig ac yn unig. Ond gydag offer fel meddalwedd hygyrch, cydweithwyr cefnogol a gweithio hyblyg, gall gweithwyr wneud eu gwaith yn llawn a dangos nad yw colli golwg yn atal unrhyw un rhag bod yn fedrus, yn uchelgeisiol neu’n rhagorol.
Beth wnaeth Sight Cymru?
Mae Sight Cymru wedi ymrwymo i greu gweithle cwbl gynhwysol i weithwyr sydd wedi colli eu golwg. Mae’r elusen yn gwybod bod pobl ag amhariad ar eu golwg yn wynebu llawer o rwystrau, o dechnoleg sy’n anodd ei defnyddio i agweddau hen ffasiwn. Dyna pam mae gan Sight Cymru gynllun clir i wneud gwaith yn fwy cynhwysol.
Mae gweithwyr yn cael eu cefnogi gydag offer fel darllenwyr sgrin, meddalwedd chwyddo a dyfeisiau wedi’u actifadu gan lais, fel y gallant weithio’n annibynnol. Mae dogfennau mewnol a chyfathrebu ar gael mewn gwahanol fformatau ac mae gweithio hyblyg yn helpu gweithwyr i gydbwyso gwaith a bywyd. Mae gweithwyr a rheolwyr yn cael hyfforddiant rheolaidd mewn ymwybyddiaeth o anabledd, arferion cynhwysol ac arweinyddiaeth gefnogol i feithrin gweithle caredig a deallus.
Mae cyfarfodydd un-i-un yn gwneud yn siŵr bod anghenion pob person yn cael eu diwallu ac unrhyw broblemau’n cael eu datrys yn gyflym. Mae’r camau hyn yn helpu gweithwyr sydd wedi colli eu golwg i gyfrannu’n llawn, cryfhau gwaith tîm a dangos bod Sight Cymru yn arweinydd mewn cynhwysiant. Mae’r elusen yn profi y gall hygyrchedd, cydraddoldeb a grymuso weithio gyda’i gilydd.
Y canlyniadau
Mae ffocws Sight Cymru ar gyflogaeth gynhwysol wedi creu gweithle lle gall gweithwyr sydd wedi colli eu golwg lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn hyderus ac yn gallu rhannu eu syniadau, gan helpu’r sefydliad i wella gwasanaethau i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Mae defnyddio offer fel technoleg gynorthwyol, systemau hygyrch a gweithio hyblyg yn helpu gweithwyr i weithio’n dda a mwynhau eu swyddi. Mae hyfforddiant parhaus a chefnogaeth bersonol yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i weithwyr i oresgyn heriau a gwneud eu gorau.
Nid aelodau tîm yn unig yw gweithwyr ag amhariad ar y golwg, maen nhw’n helpu i arwain newid yn y sefydliad. Mae eu profiadau yn llunio penderfyniadau a gwasanaethau, gan wneud Sight Cymru yn gryfach, yn gyflogwr cynhwysol enghreifftiol yng Nghymru ac yn esiampl i sefydliadau eraill ei dilyn.

Rhannodd Tosin Adeleke, Swyddog Ymgyrch Ymwybyddiaeth:
“Yn Sight Cymru, rydw i wedi dod o hyd i fwy na chefnogaeth rydw i wedi cael fy ngrymuso. Mae’r dechnoleg, yr opsiynau gweithio hyblyg, a’r ddealltwriaeth gan fy nghydweithwyr wedi trawsnewid sut rwy’n gweithio, gan ganiatáu i mi gyfrannu’n llawn ac yn hyderus. Nid yn unig y mae fy mhrofiad byw o golli fy ngolwg yn cael ei ddeall, mae’n cael ei werthfawrogi’n wirioneddol. Bob dydd, rwy’n gweld sut y gall fy sylwadau wneud gwahaniaeth, ac mae’n ysbrydoledig bod yn rhan o sefydliad sy’n troi cynhwysiant yn weithredu. Mae’n ysbrydoledig bod yn rhan o sefydliad sy’n deall heriau a chryfderau pobl sydd wedi colli eu golwg ac sy’n mynd ati’n fwriadol i’n cefnogi i lwyddo”.
Awgrymiadau i gyflogwyr
Mae Sight Cymru wedi rhannu rhai awgrymiadau i helpu cyflogwyr i feithrin diwylliant gweithle sy’n gwerthfawrogi profiad a chyfraniadau pawb.
Hygyrchedd
- Darparwch y dechnoleg gynorthwyol gywir, fel darllenwyr sgrin, meddalwedd chwyddo, a dyfeisiau addasol, a rhowch hyfforddiant ar sut i’w defnyddio
- Gwnewch fannau gwaith yn hygyrch gydag arwyddion clir, cynlluniau diogel a systemau a dogfennau digidol hawdd eu defnyddio
- Gwiriwch hygyrchedd yn rheolaidd a gwnewch welliannau yn seiliedig ar adborth
Hyblygrwydd a chyfathrebu
- Cynigiwch weithio hyblyg, fel gweithio hybrid, oriau hyblyg, neu addasiadau i dasgau
- Cyfathrebwch yn glir gan ddefnyddio iaith glir, gwahanol fformatau a chyfarfodydd hygyrch
- Rhowch gymorth personol a chyfarfodydd un-i-un i gael gwared ar rwystrau
Hyfforddiant a chynnydd
- Rhowch hyfforddiant i bob gweithiwr ar amhariad ar y golwg a sut i weithio’n gynhwysol
- Cefnogwch ddatblygiad gyrfa a chynnydd i weithwyr sydd wedi colli eu golwg
Adnoddau i gyflogwyr
Mae Sight Cymru yn cynnig ystod o adnoddau i helpu cyflogwyr i gefnogi gweithwyr sydd wedi colli’u golwg. Mae’r rhain yn cynnwys:
- canllawiau ar greu gweithleoedd hygyrch
- cymorth gyda thechnoleg gynorthwyol
- cyngor ar gyflogaeth gynhwysol
- rhaglenni hyfforddi i godi ymwybyddiaeth
Gall cyflogwyr hefyd gael mynediad at bolisïau a chanllawiau arfer gorau, cymorth ac ymgynghoriaeth barhaus, adnoddau eiriolaeth ac ymwybyddiaeth, a chyfleoedd ar gyfer partneriaethau a chydweithio ar wefan Sight Cymru (Saesneg yn unig).