Gweithwyr ifanc yn y gweithle
Dysgwch sut y gall gweithwyr ifanc (16-24) fod o fudd i weithleoedd, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ac archwiliwch sut y gall cyflogwyr eu cefnogi.
Manteision cyflogi pobl ifanc
Mae gweithwyr ifanc yn dod ag egni, syniadau newydd a sgiliau defnyddiol i weithleoedd.
Mae ymchwil yn dangos y gall pobl ifanc wneud gweithleoedd yn gryfach trwy:
- Fod yn hyderus gyda thechnolegau newydd
- Meddwl am syniadau newydd a bod yn greadigol
- Bod yn hyblyg ac yn barod i ddysgu, yn enwedig pan gânt eu cefnogi
Pan fydd cyflogwyr yn cefnogi gweithwyr ifanc, maent yn elwa o:
- Weithwyr sy’n aros yn hirach ac yn teimlo’n deyrngar, yn enwedig pan fo’u profiadau cynnar yn dda
- Mwy o gynhyrchiant, wrth i weithwyr ifanc sy’n cael eu cefnogi ennill hyder a sgiliau
- Arbedion cost, yn enwedig pan ddefnyddir prentisiaethau neu raglenni datblygu gyrfa gynnar
Mae cyflogi a hyfforddi pobl ifanc hefyd yn helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol trwy adeiladu gweithlu medrus.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau o fudd i bobl ifanc a chyflogwyr.
Gall pobl ifanc ennill profiad gwaith â thâl, hyder, cymwysterau a datblygiad strwythuredig. Gall cyflogwyr feithrin sgiliau mewn ffordd gost-effeithiol, gan helpu i siapio eu gweithlu yn y dyfodol.
Mae gan Gyrfa Cymru fwy o wybodaeth am brentisiaethau i gyflogwyr.
Mae gan Busnes Cymru wybodaeth am recriwtio prentisiaid.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9th Ionawr 2026