Diwrnod Canser y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Canser y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o symptomau canser a hyrwyddo canfod yn gynnar trwy wasanaethau sgrinio.
Gwerth cefnogi Diwrnod Canser y Byd yn y gwaith
Mae cefnogi gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan ganser, p’un ai ydynt wedi cael diagnosis eu hunain neu eu bod yn gofalu am rywun, yn mynd gam ymhellach i godi ymwybyddiaeth. Trwy gynnig cymorth ystyrlon, gall cyflogwyr helpu staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn derbyn gofal ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well.
Cael eich gweithle yn rhan o Ddiwrnod Canser y Byd
Dyma rai ffyrdd y gall eich sefydliad gymryd rhan:
Codi ymwybyddiaeth
Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i rannu gwybodaeth ac adnoddau gyda gweithwyr. Mae gwefan Macmillan (Saesneg yn unig) yn cynnig ystod eang o ddeunyddiau defnyddiol.
Anogwch weithwyr i siarad am ganser a gofyn cwestiynau i annog sgyrsiau agored.
Trefnu digwyddiad
Gall gweithgareddau codi arian fod yn bleserus ac yn fuddiol i lesiant gweithwyr.
O sesiynau blasu bwyta’n iach a theithiau cerdded noddedig i werthiannau llyfrau, mae yna ddigon o ffyrdd i gymryd rhan.
Gall gweithgareddau fel hyn fod yn dda hefyd ar gyfer morâl a llesiant gweithwyr.
Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn cymorth (Saesneg yn unig) o wefan Diwrnod Canser y Byd i gefnogi’ch gweithgareddau.
Hyrwyddo sgrinio
Tynnwch sylw at bwysigrwydd sgrinio canser ac anogwch sgyrsiau am iechyd ataliol.
Os oes gennych staff sy’n ymwneud â hyrwyddo iechyd yn y gweithle, gallant gofrestru ar gyfer sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn
Gall cymryd camau bach, cyson helpu i greu gweithle lle mae eich gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth, cefnogaeth a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.
Dyma rai syniadau i barhau â’ch ymdrechion trwy gydol y flwyddyn:
Codi ymwybyddiaeth am ganser
Gwnewch bynciau iechyd yn rhan greiddiol o’ch cynlluniau llesiant.
Rhannwch wybodaeth am ymgyrchoedd cenedlaethol a byd-eang, fel Diwrnod Canser y Byd, ar draws sianeli cyfathrebu eich staff.
Gallwch ddod o hyd i fwy o ymgyrchoedd i’w cefnogi yn ein hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau.
Annog sgyrsiau agored
Gall trafodaethau agored am ganser gynyddu ymwybyddiaeth a gwella canlyniadau. Anogwch weithwyr i siarad am ganser (Saesneg yn unig) a rhowch arweiniad ar sut i ymdrin â’r sgyrsiau hyn yn sensitif yn y gweithle.
Dangos ble i gael cymorth
Gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr yn gwybod ble i gael cyngor a chymorth dibynadwy.
Mae Gwasanaethau Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig gwybodaeth fanwl am wasanaethau sgrinio canser sydd ar gael yng Nghymru.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Canser y Byd a chael adnoddau defnyddiol, ewch i wefan Diwrnod Canser y Byd (Saesneg yn unig).
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i’n cylchlythyr.
- Ymgyrch