Skip to content
Loading Digwyddiadau

Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled i hyrwyddo llesiant ariannol a chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i helpu gweithwyr gyda dyled.

Gwerth cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn y gwaith

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn gyfle i weithleoedd leihau stigma, herio agweddau tuag at ddyled a helpu gweithwyr i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Gall pryderon ariannol effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a pherfformiad yn y gwaith. Mae creu diwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am ddyled a llesiant ariannol yn gallu helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn llai ynysig.

Gall gweithle sy’n mynd ati’n weithredol i roi cymorth i weithwyr gyda dyled a lles ariannol:

  • Greu diwylliant agored o onestrwydd a dealltwriaeth
  • Meithrin cadernid, gan helpu gweithwyr i reoli heriau bywyd yn fwy hyderus
  • Lleihau absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â straen, gorbryder a phwysau iechyd meddwl eraill a achosir gan ddyled a phryderon ariannol

Dysgwch fwy am lesiant ariannol yn y gweithle.

Ffyrdd o gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn y gwaith

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn gyfle i ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ddyled a’r cymorth sydd ar gael i weithwyr. Mae yna lawer o ffyrdd syml ac effeithiol o gymryd rhan.

Dechrau sgyrsiau am ddyled

  • Codi ymwybyddiaeth o’r stigma ynghylch dyled, pam mae’n bodoli a sut y gall atal pobl rhag chwilio am help
  • Annog sgyrsiau agored a chefnogol am lesiant ariannol yn y gweithle
  • Hyrwyddo trafodaethau am arian a dyled gyda phartneriaid, ffrindiau a theulu, lle bo hynny’n briodol

Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth o ddyled

  • Gwahodd arbenigwr i gyflwyno sgwrs, gweminar neu sesiwn ryngweithiol ar reoli dyled a chael cymorth
  • Rhannu gwybodaeth ymarferol i helpu gweithwyr i adnabod pryd y gallai fod angen cyngor arnynt
  • Lle bo hynny’n briodol, ystyried rhannu profiadau bywyd gan weithwyr neu siaradwyr gwadd i helpu i normaleiddio sgyrsiau am ddyled a lleihau stigma

Hyrwyddo gwasanaethau cymorth â dyled

Cyfeirio gweithwyr at gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddyled sydd ar gael am ddim, gan gynnwys:

Llesiant ariannol yn y gweithle trwy gydol y flwyddyn

Dylai cefnogi llesiant ariannol fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn barhaus, nid yn gyfyngedig i wythnosau ymwybyddiaeth.

Fel cyflogwr, gallwch gefnogi’ch gweithwyr trwy:

  • Gael sgyrsiau cyfrinachol a chefnogol am bryderon ariannol
  • Dod yn gyflogwr gwaith teg
  • Hyrwyddo gwybodaeth ac adnoddau llesiant ariannol yn rheolaidd
  • Cyfeirio at wasanaethau cyfrinachol ac annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyled ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim

Dysgu mwy am lesiant ariannol yn y gweithle.

Dysgu mwy

Dysgu sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled a chael adnoddau ar wefan StepChange (Saesneg yn unig).

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch