Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle – Cefnogaeth Ymarferol i Gyflogwyr
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Ymunwch â ni am gyfres weminarau dwy ran ddifyr ac addysgiadol ‘Deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle' sy'n archwilio sut y gall sefydliadau ledled Cymru fynd i'r afael â'r risg o wrthdaro yn y gweithle a'i leihau.
Yn sesiwn un bydd y siaradwr arbenigol Debbie Lane OBE, Uwch Gynghorydd Busnes ACAS, yn archwilio:
- Beth yw gwrthdaro yn y gweithle a pham mae’n codi
- Ymyrraeth gynnar: sylwi ar faterion cyn iddynt ddod yn niweidiol
- Offer, canllawiau a chefnogaeth gan ACAS ar gael i gyflogwyr
Byddwch hefyd yn clywed gan Pauline Mould, Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle, a fydd yn rhannu enghreifftiau o sut y gall sefydliadau gefnogi gweithwyr i aros yn iach ac yn gynhyrchiol tra yn y gwaith.
Bydd y sesiwn yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, a bydd Debbie Lane OBE yn ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw.
- Dyddiad: 12 Mawrth 2026
- Amser: 10:00-11:00
- Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
- Gweminar