Mis y Galon
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis y Galon i godi ymwybyddiaeth o ffactorau risg iechyd y galon allweddol ac annog dewisiadau iachach o fyw yn y gweithle.
Gwerth cefnogi Mis y Galon yn y gwaith
Mae diogelu iechyd y galon yn y gweithle yn dechrau gyda deall y risgiau. Gall ymwybyddiaeth o’r ffactorau risg – ffibriliad atrïaidd, pwysedd gwaed, colesterol a diabetes – eich helpu chi fel cyflogwyr i greu amgylcheddau cefnogol sy’n annog ymwybyddiaeth gynnar ac yn lleihau salwch y gellir ei atal ar draws eich sefydliad.
Clefyd cardiofasgwlaidd (y galon a’r system gylchredol) yw un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru. Mae cefnogi Mis y Galon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o glefyd y galon y gellir ei atal ac yn annog gweithwyr i ddeall a rheoli eu ffactorau risg. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad i lesiant staff, a all wella ymgysylltiad, cynhyrchiant a chanlyniadau iechyd hirdymor.
Sut gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis y Galon?
Dyma rai ffyrdd y gall eich gweithle gymryd rhan ym mis y Galon:
Codi ymwybyddiaeth
Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i rannu gwybodaeth gyda gweithwyr i’w helpu i ddysgu mwy am iechyd y galon.
Mae gan Heart UK adnoddau gan gynnwys y dudalen we wybodaeth hon am colesterol (Saesneg yn unig).
Symud
Mae ffyrdd o gefnogi gweithwyr i fod yn fwy egnïol yn cynnwys:
- annog cerdded neu feicio i’r gwaith
- defnyddio cynlluniau fel Beicio i’r Gwaith
- cyflwyno cyfarfodydd cerdded
Darganfyddwch fwy am weithleoedd egnïol a theithio egnïol, iachach a chynaliadwy.
Trefnu digwyddiad
Cymerwch ran yn her Mis y Galon i wella iechyd eich calon a chodi arian ar yr un pryd.
Darganfyddwch fwy am ddigwyddiadau her ar wefan Heart UK (Saesneg yn unig).
Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn
Gall cymryd camau bach, cyson helpu i greu gweithle lle mae eich gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth, cefnogaeth a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.
Dyma rai syniadau i barhau â’ch ymdrechion trwy gydol y flwyddyn:
Codi ymwybyddiaeth am iechyd y galon
Gwnewch bynciau iechyd yn rhan greiddiol o’ch polisi llesiant. Gallwch hefyd rannu gwybodaeth am ymgyrchoedd cenedlaethol sy’n cefnogi iechyd y galon.
Gallwch ddod o hyd i fwy o ymgyrchoedd i’w cefnogi yn ein hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau.
Annog sgyrsiau agored
Gall trafodaethau agored am iechyd y galon gynyddu ymwybyddiaeth a gwella canlyniadau. Anogwch weithwyr a rhoi arweiniad ar sut i ymdrin â’r sgyrsiau hyn yn sensitif yn y gweithle.
Dewch o hyd i wybodaeth am iechyd y galon (Saesneg yn unig) ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.
Dangos ble i gael cymorth
Gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr yn gwybod ble i gael cyngor a chymorth dibynadwy.
Mae gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd y galon yn cynnwys:
- Pwysau Iach Byw’n Iach sy’n cynnig canllawiau wedi’u teilwra i gefnogi unigolion i reoli eu pwysau’n effeithiol. Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau defnyddiol gan eich Bwrdd Iechyd lleol.
- Helpa Fi i Stopio yw gwasanaeth cenedlaethol y GIG i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru.
- Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) sy’n cynnig rhaglenni ymarfer corff i helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd hirdymor ac yn cefnogi cleientiaid sydd wedi’u hatgyfeirio i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw sy’n gwella eu hiechyd a’u llesiant.
- Dan 24/7 sy’n cynnig llinell gymorth ddwyieithog rhad ac am ddim i gefnogi pobl sydd â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
Dysgu mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis y Galon a chael adnoddau defnyddiol, ewch i wefan Heart UK (Saesneg yn unig). Gallwch hefyd ddod o hyd i syniadau eraill ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig).
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch