Wythnos Atal Gwastraff Bwyd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Atal Gwastraff Bwyd i godi ymwybyddiaeth am wastraff bwyd a rhannu gwybodaeth ac adnoddau i hyrwyddo gweithle cynaliadwy.
Gwerth cefnogi Wythnos Atal Gwastraff Bwyd yn y gwaith
Gall creu diwylliant yn y gweithle sy’n annog trafodaethau agored ynghylch gwastraff bwyd ac effeithiau amgylcheddol arwain at weithlu iachach, mwy ymgysylltiedig.
Gallai cymryd rhan yn yr Wythnos Atal Gwastraff Bwyd a chymryd camau i leihau gwastraff bwyd ddod â llawer o fanteision i weithleoedd, gan gynnwys:
- Creu gweithle mwy cynaliadwy
- Gwell cyfranogiad ymhlith gweithwyr a gwell lles
- Dangos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
Ffyrdd o gymryd rhan yn Wythnos Atal Gwastraff Bwyd yn y gwaith
Gall gwaith fod yn lle gwych i gael pobl i gymryd rhan yn Wythnos Atal Gwastraff Bwyd.
Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich gweithle:
Rhannu gwybodaeth ac awgrymiadau
Y lle symlaf i ddechrau yw trwy ddweud wrth weithwyr am Wythnos Atal Gwastraff Bwyd.
Rhannwch wybodaeth gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu eich staff trwy gydol y mis. Gallech gynnwys ffyrdd hawdd i bawb gymryd rhan yn y gwaith ac adref.
Ewch i wefan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff am syniadau, fel y cwis ar-lein hwn (Saesneg yn unig).
Hyrwyddo arferion bwyta cynaliadwy
Anogwch weithwyr i fabwysiadu arferion bwyta iach cynaliadwy. Gall hyn gynnwys dewis bwydydd rhydd tymhorol a lleol er mwyn osgoi plastigau untro.
Gallech sefydlu her diwastraff, gyda’r nod o gynhyrchu cyn lleied o wastraff bwyd â phosibl am wythnos. Gall cyflwyno rhywfaint o gystadleuaeth gyfeillgar fod yn ffordd dda o ysgogi gweithwyr i gymryd rhan.
Dysgwch fwy am fwyta’n iach yn y gwaith.
Lleihau gwastraff bwyd yn eich gweithle
Darparwch finiau ar gyfer gwastraff organig ac addysgu gweithwyr ar yr hyn y gellir ei gompostio. Gall hyn leihau faint o wastraff bwyd a anfonir i safleoedd tirlenwi yn sylweddol.
Gallech hefyd ystyried partneru â banciau bwyd lleol neu elusennau i roi bwyd dros ben gan eich sefydliad.
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Trussell i ddod o hyd i fanc bwyd (Saesneg yn unig).
Dysgu mwy
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Atal Gastraff Bwyd a chael adnoddau ar wefan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff (Saesneg yn unig).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch