Skip to content
Loading Digwyddiadau

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad i godi ymwybyddiaeth, rhannu adnoddau a chefnogi gweithwyr y mae canser y prostad yn effeithio arnynt.

Gwerth cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad yn y gwaith

Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion. Yn y DU, bydd tua 1 o bob 8 dyn yn cael canser y prostad yn ystod eu hoes.

Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad yn rhoi cyfle i chi hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y prostad a’r arwyddion i’w hadnabod.

Fel cyflogwr, mae cefnogi gweithwyr y mae canser y prostad yn effeithio arnynt, p’un a ydyn nhw wedi cael diagnosis eu hunain neu’n gofalu am rywun, yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth.

Trwy gynnig y cymorth cywir, gallwch helpu eich gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael gofal, ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u llesiant.

Hyrwyddo Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad yn y gwaith

Dyma rai ffyrdd y gall gweithleoedd roi gwybod i weithwyr ei fod yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad a’u hannog i gymryd rhan:

Codi ymwybyddiaeth

Gallwch rannu gwybodaeth ac adnoddau gyda gweithwyr, gan gynnwys symptomau cyffredin canser y prostad a gwiriwr risg Prostate Cancer UK (Saesneg yn unig).

Darparu lle diogel i weithwyr gael sgyrsiau am ganser y prostad a phynciau iechyd eraill.

Trefnu digwyddiadau llesiant yn y gweithle

Cynllunio digwyddiadau yn y gweithle sy’n ymgorffori iechyd a llesiant er mwyn sicrhau bod staff yn dal i gymryd rhan.
Dysgu am her camau rhithwir March the Month Prostate Cancer UK (Saesneg yn unig).

Darparu sesiynau addysgol

Gwahodd gweithwyr iechyd proffesiynol i’ch gweithle i siarad am ganser y prostad, y ffactorau risg a sylwi ar symptomau.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn

Gall cymryd camau bach helpu i greu gweithle lle mae’ch gweithwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:

Codi ymwybyddiaeth am ganser

Gwneud materion iechyd yn rhan allweddol o’ch cynlluniau llesiant yn y gweithle.

Rhannu gwybodaeth am ymgyrchoedd fel Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad trwy sianeli cyfathrebu staff.

Gallwch ddefnyddio ein hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau i ddod o hyd i ragor o ymgyrchoedd i’w cefnogi.

Annog sgyrsiau agored

Gall siarad yn agored am ganser helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella canlyniadau.

Annog gweithwyr i gael sgyrsiau agored a hyrwyddo how to talk about cancer (Saesneg yn unig) yn eich gweithle.

Dangos ble i gael cymorth

Gwneud yn siŵr bod eich staff yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth dibynadwy.

Ystyried rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy gan gynnwys:

Dysgu mwy

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Prostad a chael mynediad at adnoddau ar wefannau Prostate Cancer UK (Saesneg yn unig) a Macmillan (Saesneg yn unig).

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y flwyddyn am ymgyrchoedd iechyd a llesiant, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch