Skip to content
Loading Digwyddiadau

Llesiant yn y Gweithle Camau Cyntaf Gweithdy peilot

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
Lleoliad
Microsoft Teams

Ymunwch â'n peilot Gweithdy Llesiant yn y Gweithle newydd.

Rydym yn gwahodd grŵp bach o gyflogwyr i gymryd rhan mewn gweithdy peilot cyffrous a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i gymryd camau cyntaf ymarferol a chyraeddadwy tuag at wella llesiant yn y gweithle.

P’un a yw eich sefydliad newydd ddechrau ar ei daith llesiant neu wrthi’n ceisio rhoi mwy o strwythur i weithgarwch sydd eisoes yn bodoli, bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich helpu i nodi’r hyn sydd bwysicaf a throi syniadau yn gamau gweithredu realistig.

Yn ystod y gweithdy, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i wneud y canlynol:

  • Deall pam mae llesiant yn y gweithle yn bwysig
  • Myfyrio ar eu dull gweithredu presennol
  • Archwilio Pecyn Cychwynnol Cymru Iach ar Waith
  • Nodi blaenoriaeth llesiant ar gyfer eu sefydliad
  • Datblygu cynllun gweithredu 30 diwrnod sy’n syml a chyraeddadwy

Dyddiad: Dydd Iau 4 Mehefin 2026

Amser: 10:00yb – 11:30yb

Lleoliad: Ar-lein drwy MS Teams

Pwy ddylai ddod i’r gweithdy hwn

Mae’r gweithdy wedi’i anelu at gyflogwyr, rheolwyr a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am lesiant yn y gweithle

Cofrestrwch yma (Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly rydyn ni’n eich annog i gofrestru’n gynnar).


  • Digwyddiad
  • Gweminar