Skip to content
Loading Digwyddiadau

Digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith

Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar gyfer ein digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith. Clywch am ein datblygiadau diweddaraf, mynnwch fewnwelediadau gan arbenigwyr blaenllaw iechyd a llesiant yn y gweithle a chysylltwch â sefydliadau eraill â'r un meddylfryd o bob cwr o Gymru.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio’r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd a llesiant yn y gweithle.

Bydd y rhai sy’n mynd i’r digwyddiad yn:

  • Clywed am yr adnoddau, y gweithdai a’r gefnogaeth ddiweddaraf gan Cymru Iach ar Waith sydd ar gael i gyflogwyr.
  • Dysgu am ymchwil newydd i iechyd a llesiant gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru
  • Cymryd rhan mewn trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb gyda chyflogwyr a sefydliadau allweddol ar ddyfodol iechyd a llesiant yn y gweithle yng Nghymru
  • Rhwydweithio gyda chyfoedion, ymweld â stondinau gwybodaeth a chysylltu â thîm Cymru Iach ar Waith a sefydliadau partner

    P’un a ydych chi’n newydd i Gymru Iach ar Waith neu eisoes yn ymgysylltu â’n rhaglen, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddarganfod beth sy’n newydd, rhannu profiadau a dysgu sut y gallwn ni gefnogi eich sefydliad i greu gweithle iachach.

Manylion y digwyddiad

  • 12 Tachwedd 2026
  • 09:00 – 13:00
  • Capital Quarter 2, Caerdydd CF10 4BZ

Darperir lluniaeth, gan gynnwys bwffe brecwast, a bydd cyfle i rwydweithio â sefydliadau eraill o bob cwr o Gymru a fydd yn bresennol.

Cofrestrwch i fynychu.

Agenda

08:45-9:30 – Cofrestru, rhwydweithio

09:30-9:40 – Croeso

Croeso cynnes a chyflwyniad gan Oliver Williams, Ymgynghorwr Iechyd y Cyhoedd a Arweinydd Cymru Iach ar Waith

09:40 -09:50 – Sylwadau Agoriadol

Clywed yr Athro Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trafod pwysigrwydd creu gweithleoedd iach a chefnogol.

09:50 -10:30 – Diweddariad ynghylch Cymru Iach ar Waith

  • Trosolwg byr a chrynodeb – Oliver Williams, Ymgynghorwr Iechyd y Cyhoedd
  • Canllawiau a gweithdy ar gyfer – Deanna Hughes, Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Bwydo ar y fron yn y gweithle – Nikki Davies, Uwch Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Gwethdai Camau Cyntaf a Mentora Cymheiraid – Carl Hill, Uwch Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Gweithdy Niwro-amrywiaeth: Meddwl yn wahanol – Rhian Gleed, Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Eiriolwyr Cymru Iach ar Waith – Jayne Fortune, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus

10:30-10:50 – Straeon llwyddiant

  1. Admiral – Mentora Cymheiraid
  2. Cymoedd I’r Arfordir – Rwlét Rolau

10:50 –11:30 – Rhwydweithio a brecinio

Cyfle i fwynhau lluniaeth, cysylltu ag eraill ac ymweld â stondinau gwybodaeth

11:30 – 11:45 – Ymchwil iechyd ar weithwyr hŷn (dros 50 oed)

  • Vannessa Trimble, Pennaeth Partneriaethau a Datblygu Busnes, RCS
  • George Machacha, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr hyn sy’n gweithio, yr hyn sydd ddim a’r hyn sydd ei angen?

11:45 – 12:30 Trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb

Dan gadeiryddiaeth Cymru Iach ar Waith a chyda panel o siaradwyr arbenigol o ACAS, Adnodd, Admiral, CIPD, yr Adran Gwaith a Phensiynau, MaPS a CBAC yn trafod Llesiant yn y Gweithle

11:45 – 12:45 Myfyrdodau terfynol

Clywed yr Athro Jim Mcmanus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles, Iechyd Cyhoeddus Cymru

12:45 – 13:00 – Rhwydweithio, stondinau a hwyl fawr!


  • Digwyddiad