Skip to content
Loading Digwyddiadau

Wythnos Diogelwch Seicolegol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall eich sefydliad ddefnyddio Wythnos Diogelwch Seicolegol i hyrwyddo cyfathrebu agored, ymddiriedaeth a pharch, gan helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u cefnogi.

Gwerth cefnogi Wythnos Diogelwch Seicolegol

Mae Wythnos Diogelwch Seicolegol yn gyfle gwych i weithleoedd rannu adnoddau, dechrau sgyrsiau a chynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch seicolegol yn y gwaith.

Gall y camau gweithredu hyn annog yr ymddygiadau sy’n helpu pobl i deimlo’n ddiogel i siarad, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau.

Ffyrdd o gymryd rhan yn Wythnos Diogelwch Seicolegol

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch seicolegol. Gallech rannu awgrymiadau, enghreifftiau o arferion da neu awgrymiadau sgwrs i dimau eu defnyddio mewn cyfarfodydd.

Ewch i wefan Wythnos Diogelwch Seicolegol er mwyn lawrlwytho pecyn cymorth (Saesneg yn unig).

Cynnal digwyddiad

Ystyriwch wahodd siaradwr arbenigol, uwch arweinydd neu rywun sydd â phrofiad bywyd i siarad am greu amgylcheddau gwaith sy’n ddiogel yn seicolegol.

Anogwch weithwyr i ofyn cwestiynau a chynigiwch ffyrdd o’u gofyn yn ddienw ac wyneb yn wyneb.

Mae gan wefan Wythnos Diogelwch Seicolegol hefyd sesiynau byw yn rhedeg drwy gydol yr wythnos (Saesneg yn unig).

Annog adborth

Creu ffyrdd o rannu adborth ar draws eich sefydliad. Gallai hyn fod yn arolwg byr, blwch awgrymiadau neu drwy drafodaethau tîm.

Ymateb i adborth gweithwyr yn brydlon ac yn ystyrlon, a dangos sut y mae wedi cael ei ystyried a’i ddefnyddio i sbarduno gwelliant.

Cefnogi diogelwch seicolegol yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi feithrin diogelwch seicolegol yn eich gweithle drwy gydol y flwyddyn.

  • Gosod disgwyliadau clir ac arwain trwy esiampl
  • Creu cyfleoedd i weithwyr siarad
  • Ymateb yn gadarnhaol pan fydd pobl yn codi llais

Darganfod mwy

I ddysgu mwy am sut y gall gweithleoedd gymryd rhan yn Wythnos Diogelwch Seicolegol a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan Wythnos Diogelwch Seicolegol (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch