Skip to content

Cwsg a chynhyrchiant

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo arferion cysgu da a dysgwch pam fod digon o gwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae rhan o fod yn iach yn cynnwys cael y nifer cywir o oriau o gwsg. Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i annog hyn gyda’ch gweithwyr.

Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw:

Codi ymwybyddiaeth

Addysgu gweithwyr am bwysigrwydd cwsg ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol.

Darparu adnoddau ar arferion cysgu da ac effaith hynny ar berfformiad, fel rhaglen Sleepstation (Saesneg yn unig).

Annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Gosod ffiniau clir ar gyfer oriau gwaith, annog gweithwyr i beidio ag anfon/ateb negeseuon e-bost ar ôl oriau a hyrwyddo amser i ffwrdd.

Darparu trefniadau gwaith hyblyg

Caniatáu amserlenni hyblyg neu opsiynau gweithio o bell i helpu gweithwyr i gael trefn gysgu iach.

Creu amgylchedd sy’n ei gwneud yn haws cysgu

Lleihau sŵn yn y gweithle, cynnig mannau cyfforddus i gael seibiant, a sicrhau patrymau shifft rhesymol.

Cynnig adnoddau a hyfforddiant

Darparu mynediad at adnoddau a deunyddiau hylendid cwsg.

Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw

Defnyddiwch ein canllawiau yn y gweithle i gael gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo ymddygiad iach.

Am offer ymarferol ar gyfer hyrwyddo llesiant cwsg, gweler y Pecyn Cymorth Cysgu ac Adfer, Busnes yn y Gymuned (BITC) (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Cloc larwm wrth ymyl gwely lle mae menyw yn cysgu.