Yng Nghymru, mae amrywiaeth o sefydliadau a all eich cynorthwyo chi a’ch gweithwyr i greu gweithle mwy egnïol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gogledd Cymru Actif
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gogledd Cymru Actif wedi cynhyrchu cyfres o adnoddau Gweithle Actif i gefnogi cyflogwyr i gyflwyno dull gweithle cyfan o weithgarwch corfforol yn y gweithle, a chynyddu cyfleoedd i’r gweithlu fod yn fwy actif drwy gydol y diwrnod gwaith.
Mae’r adnoddau’n cynnwys Polisi Actif a phecyn cymorth Gweithle Actif.
Walk Wheel Cycle Trust
Mae Walk Wheel Cycle Trust yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i rymuso eu staff i adael y car gartref a theithio i’r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic, cerdded neu rannu car.
Sefydliad Prydeinig y Galon
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor, syniadau, awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith.
Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Mae Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig) yn darparu adnoddau a gwybodaeth ar-lein am ddim am hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith
Ramblers Cymru
Mae gwefan Ramblers Cymru (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am deithiau cerdded lleol neu grwpiau cerdded yn eich ardal