Gweminarau
Cymerwch olwg ar ein sesiynau ar-lein rhad ac am ddim a ddarperir gan gynghorwyr gweithle Cymru Iach ar Waith a siaradwyr gwadd ar amrywiaeth o bynciau iechyd a llesiant gwahanol.
Iechyd cyhyrysgerbydol
Darganfyddwch strategaethau ymarferol i atal anafiadau cyhyrysgerbydol yn y gweithle, cefnogi llesiant gweithwyr a hybu cynhyrchiant.
Trawsgrifiad
Sleid 1
Nikki Davies
Helo, croeso cynnes a diolch am wrando ar ein gweminar Deall a Rheoli Cyflyrau Cyhyrysgerbydol. Efallai y bydd rhai ohonoch yn eu hadnabod fel MSKs.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r sesiwn ac y gallwch rannu rhywfaint o wybodaeth newydd gyda’ch sefydliad.
Fy enw i yw Nikki Davies. Byddaf i a fy nghydweithiwr Rhian Gleed yn eich tywys drwy’r weminar.
Sleid 2
Nod y weminar hon yw eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau a’ch hyder fel y gallwch chi fynd i’r afael â chyflyrau cyhyrysgerbydol yn eich gweithle trwy gael gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am wahanol agweddau arnyn nhw.
Rydyn ni yma i helpu cyflogwyr i ddeall a rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol yn y gweithle yn effeithiol.
- Byddwn yn ystyried sut mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithio ar iechyd a llesiant yn awr ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn eich arfogi â strategaethau ar gyfer rheoli risgiau cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithiol mewn gweithlu sy’n aeddfedu.
- Yn gyntaf, hoffwn egluro bod MSKs ac MSDs yn dermau Saesneg cyfnewidiol sy’n sefyll am Gyflyrau Cyhyrysgerbydol neu Anhwylderau Cyhyrysgerbydol.
Sleid 3
Felly, beth yw cyflwr cyhyrysgerbydol?
Mae cyflwr cyhyrysgerbydol yn effeithio ar esgyrn, cymalau, cyhyrau, tendonau a’r meinweoedd sy’n eu cysylltu. Maen nhw’n gysylltiedig â phoen ac amharu ar ein gweithrediad corfforol.
- Gallan nhw fod yn acíwt a byrhoedlog, er enghraifft, oherwydd anafiadau cyson fel poen cefn, ac mae rhai yn hirdymor.
- Maen nhw’n fwy cyffredin wrth i bobl fynd yn hŷn.
- Mae rhai problemau cyhyrysgerbydol yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau gwaith megis tasgau ailadroddus, troelli, ymestyn, codi pethau mewn modd anghywir, neu ddiffyg offer codi, neu oherwydd gweithfannau sydd wedi’u cynllunio neu wedi’u gosod yn wael, sy’n arwain at osgo gwael, troelli, ymestyn, ac ati..
- Mae gan lawer o bobl broblemau cyhyrysgerbydol sy’n digwydd yn annibynnol ar waith, ond mae hyn yn gallu effeithio ar eu gallu i weithio neu gael ei waethygu gan weithgareddau gwaith.
- Mae problemau cyhyrysgerbydol a phroblemau iechyd meddwl yn aml yn cydberthyn.
Sleid 4
Rhian Gleed
Mae sbectrwm eang o gyflyrau cyhyrysgerbydol sydd fel arfer yn ffitio i 3 grŵp:
- Cyflyrau llidiol fel arthritis gwynegol ac arthritis llidiol ieuenctid.
- Cyflyrau poen cyhyrysgerbydol, er enghraifft, o ganlyniad i anaf, osteoarthritis a phoen cefn
- Ac iechyd yr esgyrn – osteoporosis a thoriadau brau
Yn yr Arolwg o’r Llafurlu yn 2021/22, gwelwyd bod anhwylderau yn y coesau yn gyfrifol am 21% o’r cyflyrau cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â gwaith yn y Deyrnas Unedig, a bod 37% yn gyflyrau yn y Breichiau neu’r Gwddf. Gwelwyd bod problemau cefn yn gyfrifol am 42% o’r cyflyrau cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â gwaith.
Sleid 5
Rydyn ni’n mynd i gael golwg sydyn ar rai ystadegau i ddangos pam mae hyn yn bwysig –
Mae’r sleid hon yn dangos bod tua 1/3 o’r boblogaeth oedolion yn y DU yn byw gyda chyflwr cyhyrysgerbydol ym mhob un o’r 4 gwlad ddatganoledig.
Sleid 6
Mae’r ystadegau blynyddol a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ym mis Tachwedd 2023 yn dangos bod tua 25,000 o achosion o salwch cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â gwaith bob blwyddyn yng Nghymru.
Felly, mae hyn yn arwain at golli cyfartaledd o 0.7 miliwn o ddiwrnodau gwaith bob blwyddyn oherwydd cyflyrau cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â gwaith gyda llawer o gostau cysylltiedig.
Felly, beth yw’r costau?
- Mae’r costau uniongyrchol yn cynnwys tâl salwch
- Mae’r costau anuniongyrchol yn cynnwys y cynhyrchiant a gollwyd
- Costau ailhyfforddi oherwydd trosiant staff
- A rhaid cofio am y costau anniriaethol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd pobl.
Mae’r ystadegau hyn yn dangos effaith sylweddol afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith a chyflyrau cyhyrysgerbydol, yng Nghymru a ledled y DU. Mae’r goblygiadau o ran cynhyrchiant ariannol a’r goblygiadau personol yn dangos mor bwysig yw mynd i’r afael â’r materion hyn yn amgylcheddau y gweithle.
Sleid 7
Gall hyn helpu’r staff i aros yn iach ac aros mewn gwaith am gyfnod hirach. Gallwch osgoi neu leihau cyfnodau estynedig o salwch ac absenoldeb cysylltiedig.
Ond mae creu diwylliant agored, cynhwysol yn dechrau o’r brig, lle dylai’r uwch reolwyr fynd ati i ddangos eu bod nhw’n poeni am lesiant yr holl weithwyr, waeth beth fo’u rôl nhw.
Ar lefel bersonol, mae yna rwystrau seicolegol. Mae’r rhain yn cynnwys derbyn cyfyngiadau oherwydd cyflwr a dod o hyd i ffyrdd o addasu gwaith.
Gall fod yn rhwystredig ac yn frawychus pan ddaw tasgau’n heriol. Gall poen hefyd arwain at deimladau o orbryder a hwyliau isel.
Yn aml, mae yna bryder am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol ac ofn y gallai parhau i weithio wneud pethau’n waeth yn y tymor hir.
Sleid 8
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i fuddsoddi yn iechyd cyhyrysgerbydol eu gweithwyr.
O ran cyflyrau cyhyrysgerbydol a deddfwriaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae llawer o agweddau i’w hystyried – er enghraifft y rheoliadau rheoli, codi a chario, Offer Sgrin Arddangos, dirgryniad, a llesiant yn y gweithle – ond nid codi a chario neu weithio gydag Offer Sgrin Arddangos yn unig sydd angen eu hystyried.
Efallai y bydd angen ichi ailedrych ar eich asesiadau risg gyda chyfraniad gan y cyflogeion er mwyn meddwl am y gweithgareddau gwaith sydd wedi’u crybwyll yng nghynt, fel tasgau troelli neu dasgau ailadroddus, i sicrhau bod yr holl weithgareddau a allai fod yn niweidiol yn cael eu cynnwys yn yr asesiadau a bod rheolaethau yn cael eu rhoi ar waith.
Efallai hefyd y byddwch chi am ystyried cynnal ymarfer mapio corff gyda’ch cyflogeion i edrych ar ddoluriau a phoenau, a fyddai fel arall yn mynd heb eu nodi a heb eu hystyried, ac mae hynny’n cychwyn trafodaethau newydd am risgiau cyhyrysgerbydol yn y gweithle.
Fodd bynnag –
Mae’n bwysig iawn cydnabod efallai nad yw pobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol yn ystyried eu hunain yn anabl.
Mewn astudiaeth ddiweddar, dim ond 32% o bobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol a ddywedodd eu bod nhw’n ystyried eu hunain yn anabl oherwydd eu cyflwr cyhyrysgerbydol.
Gall hyn fod â chanlyniadau yn yr ystyr bod y gweithle o dan nifer o ddyletswyddau cyfreithiol ynglŷn â chyflogaeth sy’n seiliedig ar y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb. (2010).
Mae’n bosibl y bydd pobl nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn anabl yn debycach o golli cyfle ar warchodaeth a chymorth perthnasol yn y gweithle. Mae gwaith codi ymwybyddiaeth gan y cyflogwyr yn hanfodol!
Trwy fuddsoddi yn llesiant corfforol eich gweithlu, mae cyflogwyr yn grymuso unigolion i gael cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cynhyrchiol a bodlon.
Sleid 9
Mae’r rhain yn gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd i gynnal bywydau iach, cynhyrchiol, lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cyhyrysgerbydol a rheoli’n hiechyd yn well.
Mae’n golygu annog eich cyflogeion i wneud dewisiadau iachach, er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cyhyrysgerbydol ac atal cwympiadau.
Gweithgarwch Corfforol
- Chwalwch y mythau ynglŷn â gweithgarwch corfforol – nid yw cyflwr cyhyrysgerbydol yn golygu
DIM gweithgarwch corfforol.
- Mae ymarfer corff yn adeiladu swmp y cyhyrau ac yn cryfhau’r esgyrn ac mae ymarfer corff cyson, a hyfforddiant ymwrthiant yn arbennig o fuddiol.
Efallai y byddwch am hyrwyddo canllawiau gweithgarwch corfforol y Prif Swyddogion Meddygol i’ch cyflogeion. Mae’r un canllawiau bellach yn cael eu mabwysiadu gan bob un o’r 4 gwlad ddatganoledig ac yn dilyn dull cwrs bywyd sy’n cwmpasu: Plant dan 5, Plant a Phobl Ifanc, Oedolion ac Oedolion Hŷn sef y rhai 65 a hŷn.
I Oedolion 19 i 64 oed, y brif neges i’w hyrwyddo yw
- ceisiwch fod yn gorfforol egnïol bob dydd ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol da. Mae unrhyw weithgaredd yn well na dim, ac mae mwy yn well byth.
- Gwnewch weithgareddau i ddatblygu neu gynnal cryfder yn y prif grwpiau cyhyrau. Er enghraifft, garddio trwm, cario siopa, neu ymarfer ymwrthiant.
- Yn ddelfrydol, cwblhewch o leiaf 150 munud yr wythnos o weithgarwch cymedrol, er enghraifft, cerdded neu feicio’n gyflym; neu gyfnodau byrrach o ymarfer dwysach.
Mae’r rhain yn negeseuon syml y gallwch eu rhannu gyda’ch gweithwyr.
Sleid 10
Felly beth yw’r cysylltiad rhwng bwyta bwyd nad yw’n iach a chyflyrau cyhyrysgerbydol?
- Mae bwyta bwyd nad yw’n iach yn cynyddu’r dirywiad mewn iechyd cyhyrysgerbydol – mae diffyg protein yn cyfrannu at golli màs cyhyr, lleihau cryfder a chynyddu’r risg o gwympo.
- Mae lefelau isel o fitamin D yn gysylltiedig â chryfder cyhyrau gwael ac esgyrn gwannach.
- Mae gordewdra a gormod o bwysau yn effeithio’n uniongyrchol ar y cymalau sy’n cynnal eich pwysau fel y cluniau a’r pengliniau.
Os nad ydych chi wedi edrych yn barod, yna edrychwch ar y wefan Pwysau Iach Byw’n Iach i oedolion yng Nghymru, a’i hybu hi yn eich gweithle.
Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn rhan o’r GIG, yn darparu gwybodaeth a chymorth di-dâl sydd wedi’u teilwra, ac mae’n deillio o Strategaeth Hirdymor Llywodraeth Cymru i Leihau Gordewdra yng Nghymru – Pwysau Iach: Cymru Iach (2019)..
Mae’r adnodd hwn yn rhoi cymorth hunangyfeiriedig ar gyfer cyflawni neu gynnal pwysau iach, gan gynnig ystod o wybodaeth ac adnoddau y gellir eu teilwra i anghenion unigol.
Mae’n rhoi mynediad am ddim at wybodaeth, cymorth ac adnoddau ar y canlynol:
- Deall pwysau a’ch taith tuag at reoli pwysau
- Bwyd a Diod
- Gweithgarwch Corfforol
- Iechyd a Llesiant Emosiynol a hefyd Newid ymddygiad yn y tymor hir.
Sleid 11
Felly, dyma ychydig o ffeithiau a ffigurau ar y cysylltiadau rhwng Ysmygu, Tybaco a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol
- Gall tybaco ysgogi ymateb system imiwnedd yn yr ysgyfaint sy’n ymledu i’r cymalau.
- Mae pobl sy’n ysmygu yn debycach o ddatblygu arthritis gwynegol.
- Mae pobl sy’n ysmygu yn dweud eu bod yn cael poenau fwy na’r rhai nad ydyn nhw’n ysmygu.
- Mae ysmygu yn gysylltiedig â chynnydd o hyd at 40% yn y risg o dorri clun ymhlith dynion..
- Mae ysmygu yn cael mwy o effaith ar lai o ddwysedd mwynau yn yr esgyrn ymhlith menywod ar ôl diwedd y mislif..
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, hyrwyddwch Helpa Fi i Stopio yn eich gweithle a meddyliwch hefyd am sut y gallwch chi helpu’ch gweithwyr os ydyn nhw am roi’r gorau i ysmygu.
Gall alcohol ychwanegu at fagu pwysau a dewisiadau bwyd gwael, a gall camddefnyddio alcohol a chyffuriau arwain at ddewisiadau ffordd o fyw gwael.
Iechyd Meddwl – byddwch yn ymwybodol bod:
- Angen iechyd meddwl da i roi’r cymhelliant a’r egni i fod yn gorfforol egnïol.
- Mae yna gylch dieflig rhwng hwyliau isel a phoen ac mae pobl â phoen cefn ac iselder yn profi mwy o boen na’r rhai â phoen cefn yn unig..
- Gall cyflyrau iechyd meddwl gynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu rhai cyflyrau cyhyrysgerbydol.
- Mae angen ichi godi ymwybyddiaeth o iechyd cyhyrysgerbydol a hybu ffyrdd iach o fyw ac annog gweithwyr i ymddwyn yn iach i leihau eu risg o ddatblygu symptomau cyhyrysgerbydol.
- Felly meddyliwch am sut rydych chi’n sicrhau dull cydgysylltiedig o gefnogi’ch gweithwyr trwy esbonio’r cysylltiadau ag iechyd cyhyrysgerbydol a’r ffactorau risg, adnoddau ac ymgyrchoedd ffordd o fyw.
Sleid 12
Nikki Davies
Mae rheolwyr llinell yn rhan annatod o’r cylch rhyngweithiol o atal, hyrwyddo a rhoi chymorth o ran iechyd cyhyrysgerbydol.
Mae angen iddynt fod wedi’u hyfforddi’n briodol ac yn ddigonol i reoli staff a gwella eu sgiliau fel y gallant fynd i’r afael yn hyderus â materion megis anafiadau i staff ac absenoldeb oherwydd salwch. Dylai hyfforddiant mewn cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith, ynghyd â sgiliau rheoli cyffredinol, rheoli amser a hyfforddiant cyfathrebu effeithiol fod yn rhan o’r rhaglen ymsefydlu ar gyfer unrhyw reolwyr newydd. Rheolwyr llinell yw’r llinell gymorth gyntaf pan fydd gweithiwr yn cael anawsterau cyhyrysgerbydol, a all effeithio ar ei waith a’i lesiant, felly bydd angen hyfforddiant mewn cyflyrau cyhyrysgerbydol arnyn nhw eu hunain.
Sleid 13
Yn y diagram hwn, gallwn weld tri opsiwn allweddol sydd wedi’u cynllunio i rymuso gweithwyr a rheolwyr llinell o fewn sefydliad. Mae’r opsiynau hyn fel a ganlyn:
- Atal: Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar fynd ati’n rhagweithiol i nodi a lliniaru heriau neu rwystrau posibl a allai lesteirio perfformiad neu ymgysylltiad gweithwyr. Trwy atal problemau cyn iddynt godi, mae’r sefydliad yn sicrhau llif gwaith llyfnach ac yn lleihau’r tebygolrwydd o wrthdaro neu rwystrau.
- Hyrwyddo: Y nod yma yw annog a chefnogi ymddygiadau, arferion a mentrau sy’n ysgogi llwyddiant a llesiant ymhlith gweithwyr a rheolwyr llinell. Gallai hyn gynnwys cydnabod a gwobrwyo perfformiad rhagorol, hyrwyddo cyfleoedd datblygiad proffesiynol, a meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi. Drwy hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol, mae’r sefydliad yn meithrin gweithlu brwdfrydig ac ymgysylltiol.
- Cymorth: Mae hyn yn ymwneud â chynnig yr adnoddau, offer, a chymorth angenrheidiol i weithwyr a rheolwyr llinell i’w helpu i lwyddo yn eu rolau. Gall cymorth fod ar sawl ffurf, megis darparu mynediad at hyfforddiant, cynnig mentora neu hyfforddiant, a sicrhau bod gan weithwyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu swyddi’n effeithiol. Trwy gefnogi gweithwyr, mae’r sefydliad yn eu helpu i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial llawn.
Gyda’i gilydd, mae’r tri opsiwn hyn—Atal, Hyrwyddo a Chymorth—yn creu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer grymuso gweithwyr a rheolwyr llinell, gan arwain at weithlu mwy cynhyrchiol, llawn cymhelliant a chadarn.
Sleid 14
Felly rydyn ni’n mynd i edrych ar y rhain ychydig yn fwy manwl yn unigol
Yn gyntaf, Atal – dylai polisïau cadarn cyffredinol a chyflenwol fod ar waith a dylai’r pwyslais fod ar gefnogi staff ac atal afiechyd.
Dylai fod gennych adnoddau digonol ar gyfer diogelwch: Megis Hyfforddiant Statudol a Gorfodol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol:
- Peidiwch â bod ofn mynd y tu hwnt i rwymedigaeth gyfreithiol – nid dim ond codi a chario oddi ar y silff a hyfforddiant Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE).
- Ystyriwch a oes digon o amser ac offer wedi’u neilltuo ar gyfer tasgau i sicrhau bod tasgau’n cael eu cyflawni’n ddiogel
Gweithdrefnau Adrodd Clir:
- Rhoi gwybod am risgiau/digwyddiadau/damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd
- Cydnabod a lliniaru risgiau.
- Hefyd adnabod patrymau a gweithredu.
Ymgysylltu â Staff ac Ymchwilio:
- Ceisio mewnbwn staff i bob agwedd ar atal cyflyrau cyhyrysgerbydol a llunio polisi/asesiad risg. Fel y soniodd Rhian, mae mapio’r corff yn ffordd ddefnyddiol o gychwyn sgwrs neu sesiwn loywi gyda staff.
- Wrth ymchwilio i ddigwyddiadau gyda staff, cofiwch gynnwys damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ac anogwch staff i hysbysu a chymryd camau i’w hatal rhag digwydd eto.
Monitro Mesurau Rheoli:
Peidiwch â dibynnu ar asesiad risg a gynhaliwyd flynyddoedd yn ôl a chymryd bod bopeth yn iawn.
Sleid 15
Hyrwyddo – Dyma lle rydym yn awyddus i chi gymryd mwy o gamau gweithredu – yn enwedig ar y ffactorau ffordd o fyw a all waethygu cyflyrau cyhyrysgerbydol. Edrychwch eto ar sut rydych yn cynnal ymgyrchoedd a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn – fel rydym wedi sôn, ychwanegwch iechyd cyhyrysgerbydol at eich ymgyrchoedd rhoi’r gorau i smygu neu fwyta’n iach i atgyfnerthu negeseuon ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Bydd ymgyrchoedd a digwyddiadau ar gael ar ein gwefan..
Cynhaliwch drafodaethau agored ac
- Anogwch Sgyrsiau Ffordd o Fyw gyda hyrwyddwyr lle bo’n briodol
- Ymgorfforwch lesiant mewn arfarniadau gweithwyr
- Ewch ati i feithrin Agweddau Cyhyrysgerbydol Cadarnhaol a chanolbwyntiwch ar bethau y gellir eu gwneud
- Hyrwyddwch ddiwylliant o atal iechyd.
- Rhowch wybod i staff am y cymorth sydd ar gael iddynt.
Rhowch wybod i bawb am y Gwasanaethau sydd ar Gael boed hynny’n Iechyd Galwedigaethol a Gwybodaeth Ffisiotherapi
- Trydydd sector /Meddygon teulua nodyn ffitrwydd
- Neu Raglenni cymorth i weithwyr
COFIWCH – gall hyd yn oed y gweithwyr hynny sydd heb gyflwr cyhyrysgerbydol fod yn ofalwr neu ag aelod o’r teulu sydd â chyflwr cyhyrysgerbydol. Gallwch chi gyfeirio a chefnogi’r gweithwyr hyn hefyd i gael budd cymunedol ehangach y tu allan i’ch sefydliad.
Sleid 16
Yn olaf, wrth symud ymlaen at gymorth, mae rhai pethau’n gorgyffwrdd. O ran cymorth, rydym yn golygu
Datrysiadau Hyblyg i Weithwyr â Chyflyrau Cyhyrysgerbydol:
Addasiadau rhesymol perthnasol i sicrhau parhad yn y gwaith.
- Gallwch chi roi cymorth yn uniongyrchol. Ond mae llawer o gymorth ar gael hefyd gan y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol a byddwn ni’n ystyried y rheiny ar y sleid nesaf.
Gall newidiadau bach fod yn effeithiol:
- Dod o hyd i ffyrdd ymaddasol o gwblhau tasg neu leihau’r amser sy’n cael ei dreuilo ar dasg. Efallai y byddant am gylchdroi eu tasgau gyda chydweithwyr.
- Ac mae cael seibiannau rheolaidd yn rhai enghreifftiau hawdd y gellir eu rhoi ar waith.
Cydweithio â Gwasanaethau Iechyd a Llesiant Galwedigaethol:
- Defnyddiwch y Rhaglen Gymorth i Weithwyr (EAP) a Chymorth Iechyd Meddwl.
- Deallwch y gallai fod gan staff sy’n dychwelyd i’r gwaith nodyn ffitrwydd nad yw wedi ymdrin ag effaith iechyd meddwl bod i ffwrdd o’r gwaith neu gael cyflwyr cyhyrysgerbydol hirdymor. Trafodwch hyn gyda staff sy’n dychwelyd – bydd angen cymorth/cyfeirio iechyd meddwl arnynt..
Mae’n bwysig Cydnabod y gall Poen Cronig a Meddyginiaeth gael sgîl-effeithiau a allai effeithio ar eu swydd a chydnabyddwch effaith y cyflwr cyhyrysgerbydol ar y person cyfan.
Adsefydlu a dychwelyd i’r gwaith
Mae hunanreoli yn ddull pwysig i’w ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gymorth a ddarperir gan y cyflogwr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae angen ichi ofyn
- Pa gymorth sydd ei angen ar eich gweithwyr, yna gallwch gyfeirio gweithwyr at wybodaeth a chymorth a fydd yn eu galluogi i reoli eu cyflyrau
- Darparu addasiadau rhesymol-mae addasiadau yn rhoi cymorth unigol mewn perthynas â phroblem benodol gweithiwr i’w alluogi i weithio i’w botensial ac adolygu’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn ei Nodyn Ffitrwydd.
Sleid 17
Os mai dim ond un peth rydych chi’n ei ddysgu o’r cyflwyniad heddiw, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud nodyn o’ch darparwr gwasanaeth cymorth yn y gwaith perthnasol.
Felly beth yw’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith?
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu mynediad cyflym at therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi seicolegol wedi’u teilwra. Mae wedi’i gynllunio i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i’r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith oherwydd:
- Problem iechyd meddwl; neu
- Broblem cyhyrysgerbydol.
Gall pobl gysylltu â’r gwasanaeth a siarad yn uniongyrchol â chynghorydd arbenigol. Gall meddyg teulu neu gyflogwr (neu unrhyw un arall â diddordeb) hefyd gyfeirio gweithiwr at y gwasanaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant am ddim yn uniongyrchol i fusnesau yn y sector preifat a’r trydydd sector, nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol yn aml.
Mae rhaglen hyfforddiant ar gael i helpu cyflogwyr i nodi anghenion llesiant y gweithlu, a gweithredu rhaglen wedi’i theilwra o fesurau sydd wedi’u cynllunio i wella llesiant yn y gwaith, gan gynnwys gweithdai hyfforddiant a thriniaethau llesiant.
Felly ble mae’ch Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith chi wedi’i leoli?
- Mae Strategaeth Dinas y Rhyl (RCS) yn cwmpasu ardaloedd Gogledd a Gorllewin Cymru fel y gwelir gan yr eiconau cylch gwyrdd ar y map. Os yw unigolyn yn byw yn, neu os yw busnes wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe neu Wrecsam.
- Case UK yw’r darparwr gwasanaeth ar gyfer ardaloedd y De-ddwyrain a’r Cymoedd, sef yr eicon porffor ar y map ac mae’n cwmpasu ardaloedd fel Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Torfaen a Bro Morgannwg..
- MIND yw’r darparwr gwasanaeth os yw’r unigolyn yn byw ym Mhowys, neu os yw’r busnes wedi’i leoli ym Mhowys.
Sleid 15
Ac yn olaf
Mynediad i Waith: Rhaglen Adran Gwaith a Phensiynau ledled y DU sy’n cynnig gwasanaeth am ddim a all eich helpu i gael gwaith neu aros yn y gwaith os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd.
Bydd y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Trwy wasanaeth Mynediad at Waith, gallwch wneud cais am y canlynol:
- Grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith.
- Cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith.
- Arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau am swyddi
- Mae dolenni a manylion cyswllt ar gyfer yr holl wasanaethau hyn sydd ar gael ar ein gwefan.
Sleid 16
Daw’r rhestr wirio camau gweithredu hon o becyn cymorth BITC MSK. Cymerwch amser i edrych ar hyn a myfyrio ar ba mor ddefnyddiol y bydd yn eich gweithle, gan ystyried pob agwedd ar iechyd cyhyrysgerbydol, O ymrwymiad uwch ac ymyrraeth gynnar, mae’n darparu man cychwyn defnyddiol i adolygu’r hyn sydd gennych ar hyn o bryd ar gyfer rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol.
Sleid 17
Diolch i chi am wrando. Gobeithio bod y weminar hon wedi bod o fudd ichi.
Gallwch ddod o hyd i’n manylion cyswllt i gyd ar y sleid. Sganiwch y cod QR er mwyn cofrestru ar gyfer ein e-Fwletin, i gadw mewn cysylltiad â ni ac i gael y newyddion diweddaraf gennym.
Nikki Davies- Diolch.
Rhian Gleed- diolch
Byrfoddau
- BITC – Busnes yn y Gymuned
- DWP – Adran Pensiynau Gwaith
- HSE – Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- MSDs – Anhwylderau Cyhyrysgerbydol
- MSK – Cyhyrysgerbydol
- GIG – Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- DU – Y Deyrnas Unedig