Arolwg i Gyflogwyr
A yw eich sefydliad/busnes yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi iechyd a lles gweithwyr? Mae offeryn Arolwg i Gyflogwyr Cymru Iach ar Waith yn ffordd gyflym ac ymarferol o ateb hyn.
Dyma arolwg rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae eich sefydliad yn perfformio o ran iechyd a lles yn y gweithle, a pha gamau eraill y gallech chi eu cymryd.
Trawsgrifiad – Offeryn Arolwg i Gyflogwyr Cymru Iach ar Waith
1
01:00:01,559 –> 01:00:06,119
dych chi erioed wedi ystyried a ydych chi’n gwneud popeth o fewn eich gallu
2
01:00:06,119 –> 01:00:10,039
i gefnogi iechyd a lles yn eich gweithle?
3
01:00:10,039 –> 01:00:13,480
Mae Offeryn Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith
4
01:00:13,480 –> 01:00:17,559
yn ffordd gyflym ac ymarferol o ddarganfod hynny.
5
01:00:17,559 –> 01:00:20,320
Mae’n cymryd llai na 10 munud i’w gwblhau,
6
01:00:20,320 –> 01:00:25,119
a byddwch yn cael cipolwg ar unwaith ar berfformiad eich sefydliad.
7
01:00:25,119 –> 01:00:28,599
Byddwch yn derbyn adroddiad wedi’i deilwra am ddim,
8
01:00:28,599 –> 01:00:32,480
gyda chyngor clir, adborth a chamau nesaf awgrymedig
9
01:00:32,480 –> 01:00:36,559
i gryfhau eich strategaeth lles yn y gweithle.
10
01:00:36,559 –> 01:00:40,400
O adolygu canlyniadau i ddatblygu cynllun gweithredu,
11
01:00:40,400 –> 01:00:43,719
gallwch hefyd gael mynediad at offer pellach am ddim
12
01:00:43,719 –> 01:00:46,920
a chymorth un-i-un gan ein Cynghorwyr Gweithle,
13
01:00:46,920 –> 01:00:50,719
i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
14
01:00:50,719 –> 01:00:55,639
Cymerwch y cam cyntaf tuag at weithle iachach a mwy cefnogol.
15
01:00:55,639 –> 01:01:00,559
Cwblhewch yr Offeryn Arolwg Cyflogwyr heddiw.
Pam cwblhau’r arolwg?
- 15 cwestiwn penodol sy’n archwilio eich polisïau, eich arferion, a’ch blaenoriaethau ynghylch iechyd yn y gweithle
- Mae’n cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ar-lein
- Cewch adroddiad wedi’i deilwra gyda chyngor clir, adborth, ac awgrymiadau am gamau nesaf i gryfhau eich strategaeth lles yn y gweithle
- Cewch ddarlun o’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dda a’r hyn y gellid ei wella
Beth sy’n digwydd wedyn?
Ar ôl i chi gwblhau’r arolwg a chael eich adroddiad, bydd gennych nifer o opsiynau:
- Adolygu eich canlyniadau
- Amlygu meysydd allweddol i’w gwella
- Datblygu cynllun gweithredu neu gysylltu â’n Cynghorwyr Iechyd yn y Gweithle i’ch cefnogi i wneud hyn
- Dilyn y dolenni i gael mynediad at offer, cymorth, ac arbenigedd pellach, er enghraifft: Rhaglen Mentora Cymheiriaid CIW, e-ddysgu, gweminarau, straeon llwyddiant.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi gofrestru/mewngofnodi i gael mynediad i’r arolwg. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu cymorth personol i chi ac yn sicrhau eich bod yn cael y budd llawn o’r adroddiad.
Cwestiynau?
Anfonwch neges i [email protected].
Cymerwch y cam cyntaf tuag at weithle iachach a mwy cefnogol.
Cwblhewch yr arolwg heddiw