Gorffennaf 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm CIW. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith
  • Llyfryn Comisiwn Bevan
  • Straeon llwyddiant Cymru Iach ar Waith: Cyrchfan Bluestone Cyf
  • Fideo sgrinio’r fron y GIG
  • Dyddiadau ymgyrch mis Awst

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.  

Cefnogi Bwydo ar y Fron yn y Gwaith

A woman breastfeeding her baby.

Mae bwydo ar y fron o fudd i’r fam a’r baban ac mae’n cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig) yn argymell bwydo ar y fron ochr yn ochr â bwydydd solet hyd at ddwy oed a thu hwnt.

Mae creu gweithleoedd cefnogol yn helpu i leihau straen i rieni sy’n dychwelyd i’r gwaith, yn rhoi hwb i lesiant a pherfformiad, ac mae’n gwella cyfraddau cadw staff. Tynnodd arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sylw at yr angen am fannau preifat, glân ag ynddynt ddigon o adnoddau ar gyfer bwydo ar y fron yn y gwaith.

Mae cyflogwyr yng Nghymru eisoes ar flaen y gad wrth iddynt gynnig seibiannau hyblyg, addasiadau i sifftiau, a chefnogaeth ar gyfer tynnu llaeth o’r fron. Ymunwch â nhw yn ystod Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd (01–07 Awst) i adeiladu gweithleoedd mwy cynhwysol a chyfeillgar i deuluoedd. Am ragor o wybodaeth a mynediad at adnoddau ewch i’n tudalen we Bwydo ar y fron yn y gweithle.

Llyfryn Comisiwn Bevan 

Yn dilyn y digwyddiad Dysgu Gyda’n Gilydd a gynhaliwyd ym mis Ebrill, mae Comisiwn Bevan wedi llunio Canllaw Arferion Gorau ar Iechyd a Llesiant Gweithwyr.

Mae’n cynnwys argymhellion ymarferol, offer ac adnoddau i fusnesau gefnogi iechyd a llesiant gweithwyr a helpu i adeiladu gweithleoedd iachach.

Straeon llwyddiant Cymru Iach ar Waith 

Bluestone logo

Bluestone Cyf (Saesneg yn unig)

Mae Bluestone Cyf, cyrchfan gwyliau sy’n denu dros 150,000 o westeion bob blwyddyn, yn deall y bydd, trwy ofalu am lesiant ei bobl a chreu gweithlu hapus, yn sicrhau y byddan nhw yn eu tro yn gofalu am y gwesteion sy’n aros yno.

Drwy weithio gyda Cymru Iach ar Waith, mae wedi cael dealltwriaeth fanylach o’r cysylltiadau clir rhwng gwaith ac iechyd a llesiant ac wedi gallu llunio mentrau a strategaethau i wella profiad cyffredinol y gweithwyr.

Oes gennych chi enghraifft o arfer da o ran iechyd a llesiant yn y gweithle? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Gall rhannu eich llwyddiant ysbrydoli eraill i weithredu, annog cydweithrediad a hybu perfformiad ar draws gweithleoedd.  Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected]

Fideo sgrinio’r fron y GIG

Mae fideo sgrinio’r fron newydd ‘Sgrinio’r Fron – Yr Hyn i’w Ddisgwyl ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bron Prawf Cymru, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi cynhyrchu’r fideos.

Mae’r fideos hyn yn helpu pobl i ddeall beth yw sgrinio’r fron a pham ei fod yn bwysig.     Mae’r fideos yn dangos: y daith sgrinio’r fron o’r gwahoddiad i’r canlyniadau sut mae pelydr-X o’r fron (mamogram) yn cael ei gymryd; a pha gefnogaeth sydd ar gael.    Gall cyflogwyr helpu drwy: Rannu’r fideos gyda gweithwyrCodi ymwybyddiaeth o’r fideos ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

Dyddiadau ymgyrch mis Awst

Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd (01-07 Awst)

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron yn y gweithle a chefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron yn y gwaith.

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi ddathlu Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn eich gweithle:

  • Hyrwyddo bwydo ar y fron yn y gweithle
  • Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
  • Annog sgyrsiau

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen ymgyrch Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd.

Diwrnod Beicio i’r Gwaith (07 Awst)

Mae’r Diwrnod Beicio i’r Gwaith yn annog pobl i gynnwys beicio yn eu teithiau cymudo i’r gwaith. Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio’r diwrnod i hyrwyddo teithio llesol a theithio cynaliadwy i’r gwaith.

I weld sut y gall eich gweithle gymryd rhan, ewch i’r ddolen Diwrnod Beicio i’r Gwaith.

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.