Hydref 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Ymunwch â ni: Digwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith (12 Tachwedd, Caerdydd)
  • Gweminar ADHD yn y Gwaith (21 Tachwedd)
  • Sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi menopos yn y gwaith
  • Brechiadau’r gaeaf: Helpwch i amddiffyn eich gweithlu a’ch cymuned
  • Adeiladu partneriaethau i wella cysylltiadau yn y gweithle
  • Dyddiadau ymgyrchoedd mis Tachwedd

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Ymunwch â ni: Digwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith (12 Tachwedd, Caerdydd)

Disgwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd 12 Tachwedd Caerdydd

Rydym yn lansio pennod newydd gyffrous yn Cymru Iach ar Waith – ac mae gwahoddiad i chi fod yn rhan ohoni!

Ymunwch â ni i ddysgu am ein gwasanaethau ac adnoddau newydd am ddim, sydd wedi’u cynllunio i helpu busnesau ledled Cymru i wella iechyd, llesiant a chynhyrchiant yn y gweithle.

  • Dyddiad: Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
  • Amser: 09:30 – 12:45 (cofrestru, rhwydweithio a lluniaeth o 09:00)
  • Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, CF10 4BZ

Noder: mae lleoedd yn gyfyngedig. Er mwyn caniatáu mynediad teg, gofynnwn yn garedig nad yw mwy na dau gynrychiolydd o bob sefydliad yn cofrestru i ddechrau. Unwaith y bydd y capasiti wedi’i gyrraedd, bydd rhestr wrth gefn yn cael ei hagor ar gyfer ceisiadau ychwanegol.

Cadwch eich lle heddiw!

Edrychwn ymlaen at eich croesawu a gweithio gyda’n gilydd i greu gweithleoedd iachach a hapusach ledled Cymru.

Gweminar yn trafod Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn y Gwaith

Dau gydweithiwr yn sefyll gyda'i gilydd, maen nhw'n gwenu ac yn chwerthin.

Ymunwch â ni am sesiwn ddiddorol ac addysgiadol ar ‘ADHD yn y Gwaith’, sy’n archwilio sut y gall busnesau ledled Cymru hyrwyddo niwroamrywiaeth a chreu gweithleoedd mwy cynhwysol.

Bydd ein siaradwr arbenigol, Aimee Smith, yn trafod:

  • Beth yw niwroamrywiaeth ac ADHD a pham maen nhw’n bwysig yn y gwaith
  • Sut i adnabod a defnyddio cryfderau talent niwroamrywiol
  • Manteision adeiladu gweithlu cynhwysol

Bydd Rhian Gleed, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle ar gyfer Cymru Iach ar Waith, yn ymuno ag Aimee, a fydd yn rhannu enghreifftiau ymarferol o sut y gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr niwroamrywiol.

  • Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025
  • Amser: 10:00 – 11:00
  • Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Sicrhewch eich lle nawr!

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.

Sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi menopos yn y gwaith

Llun agos o dîm gyda'u dwylo wedi'u pentyrru ar ei gilydd dros ddesg yn y gwaith

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu dull cefnogol ac agored o ymdrin â menopos yn y gwaith. Gan fod y rhan fwyaf o’i staff yn fenywod, llawer ohonynt dros 40 oed, roedd y sefydliad yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwybodaeth glir, cymorth ymarferol a mannau diogel i siarad.

Drwy bolisi menopos pwrpasol, adnoddau staff a grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid, mae’r sefydliad yn helpu cydweithwyr i deimlo’n fwy hyderus a chysylltiedig a theimlo eu bod yn cael eu deall yn ystod y cyfnod hwn o fywyd.

Cymerwch olwg ar dudalennau gwe Cymru Iach ar Waith am ragor o syniadau ar gymorth menopos yn y gwaith.

A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?

Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant eraill ar ein gwefan, dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!

Brechiadau’r gaeaf: Helpu i amddiffyn eich gweithlu a’ch cymuned

Mynd i gael y brechlyn yw'r ffordd orau i'ch amddiffyn rhag y ffliw.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd cael y brechlyn ffliw i amddiffyn eich hun, eich gweithwyr a’ch cymuned ehangach rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Fel cyflogwr yng Nghymru, rydych chi’n chwarae rhan bwysig wrth gadw’ch gweithlu’n iach a helpu i leihau lledaeniad y ffliw. Drwy rannu negeseuon allweddol ac annog staff cymwys i gael eu brechu, gallwch chi helpu i amddiffyn eich tîm, lleihau absenoldeb oherwydd salwch a chefnogi iechyd y cyhoedd ledled Cymru.

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw Cymru’n iach y gaeaf hwn.

Am ragor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr hyrwyddo a chefnogi mynediad at y gwasanaethau hyn er budd iechyd gweithwyr, ewch i’r dudalen sgrinio a brechiadau Cymru Iach ar Waith.

Adeiladu partneriaethau i wella cysylltiadau yn y gweithle

Menyw yn gwenu, yn eistedd wrth fwrdd ac yn cael trafodaeth ddymunol â grŵp mewn swyddfa cynllun agored.

Darllenwch flog diweddaraf ACAS (Saesneg yn unig) i ddarganfod sut y gall meithrin partneriaethau cryf rhwng cyflogwyr, gweithwyr a chynrychiolwyr wella cysylltiadau yn y gweithle a chreu amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol.

I archwilio ffyrdd ymarferol o feithrin cydweithio yn y gwaith ymhellach, ewch i dudalen we ‘Cyfathrebu yn y Gweithle‘ Cymru Iach ar Waith i ddysgu sut y gall cyfathrebu effeithiol hybu morâl, ymddiriedaeth a chynhyrchiant ar draws eich gweithlu.

Dyddiadau ymgyrchoedd mis Tachwedd

Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y mae’n bosibl y bydd gweithleoedd eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Hydref eleni:

Tashwedd (Movember) – Tachwedd

Tashwedd yw’r amser perffaith i dynnu sylw at iechyd dynion – yn gorfforol ac yn feddyliol – yn eich gweithle. Drwy gymryd rhan, gall cyflogwyr helpu i godi ymwybyddiaeth a chreu diwylliant lle mae’n iawn siarad am lesiant.

Dyma sut y gall cefnogi Tashwedd yn y gwaith wneud gwahaniaeth:

  • Yn hybu iechyd meddwl a llesiant cyffredinol ymhlith gweithwyr
  • Yn annog dewisiadau ffordd o fyw iachach i ddynion yn eich tîm
  • Yn annog sgyrsiau agored, gan adeiladu perthnasoedd cryfach a mwy cefnogol yn y gweithle

Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ar dudalen ymgyrch Tashwedd/Movember.

Wythnos Siarad am Arian (03 – 07 Tachwedd)

Mae Wythnos Siarad am Arian yn gyfle gwych i gyflogwyr ddechrau sgyrsiau agored am arian a llesiant ariannol. Gall annog trafodaethau ynghylch arian helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth ac yn fwy hyderus wrth reoli eu harian.

Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Siarad am Arian.

Wythnos Hunanofal Genedlaethol (17 – 23 Tachwedd)

Mae Wythnos Genedlaethol Hunanofal yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofalu am ein hiechyd a’n llesiant. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos hon i hyrwyddo gweithgareddau hunanofal ac atgoffa gweithwyr i gymryd amser ar gyfer eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Archwiliwch ein tudalen ymgyrch Wythnos Genedlaethol Hunanofal a dysgwch sut i gymryd rhan.

Diwrnod Rhyngwladol y Dynion (19 Tachwedd)

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o iechyd corfforol a meddyliol dynion ac i annog sgyrsiau agored a chefnogol yn y gweithle.

Dysgwch ragor ar ein tudalen ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Dynion.

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.