Mehefin 2025

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm CIW. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr
  • E-ddysgu Rheoli Absenoldeb Salwch
  • Cymru Iach ar Waith yn chwilio am eich storïau o lwyddiant!
  • Apiau GIG Cymru am ddim ar gyfer Atal a Rheoli Diabetes
  • Dweud eich dweud: Helpu i lunio Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl
  • Llywodraeth Cymru yn ehangu’r rhaglen sgiliau hyblyg yn sylweddol
  • Dyddiadau ymgyrchoedd Gorffennaf

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr

Diolch / thank you

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’n gweminar MSA yr wythnos ddiwethaf – gobeithio eich bod yn meddwl bod y sesiwn yn un werthfawr!

Ymhlith y pynciau allweddol a drafodwyd roedd:

  • Tueddiadau o ran absenoldeb salwch yng Nghymru a’r DU
  • Ymgysylltu â gweithwyr iddynt ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
  • Mewnwelediad gan Melin Homes (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
  • Mynediad at adnoddau, gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar MSA

Diolch i Nikki a Deanna, ein Cynghorwyr Iechyd yn y Gweithle am gynnal y weminar ac i Melin Homes (Hedyn) am ganiatáu inni gynnwys eich mewnwelediadau yn ystod y sesiwn.

Bydd recordiad ar gael ar ein gwefan yn fuan.

Gallwch hefyd ymweld â’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am rheoli absenoldeb salwch.

Gweminar teithio llesol – cadwch y dyddiad!

Cynhelir ein gweminar nesaf ar 17 Medi 2025 – byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer lle, cyn bo hir!

E-ddysgu Rheoli Absenoldeb Salwch

Llun agos o gydweithwyr yn edrych ar liniadur ar ddesg, mae un ohonyn nhw’n pwyntio at y sgrin.

Gall rheoli absenoldeb salwch fod yn her i fusnesau bach a busnesau sy’n tyfu.

Mae ein modiwl e-ddysgu 20 munud sydd am ddim wedi’i gynllunio i roi strategaethau ymarferol i chi reoli absenoldeb gan gefnogi iechyd a chynhyrchiant eich tîm.

Beth sydd yn y modiwl?

  • Rheoli absenoldeb yn rhagweithiol: Strategaethau syml i leihau absenoldeb.
  • Dadansoddi data absenoldeb salwch: Pwysigrwydd olrhain a dehongli tueddiadau absenoldeb
  • Awgrymiadau ynghylch cyfathrebu: Cynnal cyfathrebu agored gyda gweithwyr
  • Cyngor arbenigol: Cynnal cydymffurfiaeth â chyfreithiau cyflogaeth

Datblygwyd y modiwl mewn partneriaeth â Busnes Cymru ac mae ar gael ar blatfform BOSS Busnes Cymru.

Cofrestrwch ar ein modiwl e-ddysgu heddiw.

Cymru Iach ar Waith yn chwilio am eich storïau o lwyddiant!

Llun agos o dîm gyda'u dwylo wedi'u pentyrru ar ei gilydd dros ddesg yn y gwaith

Oes gennych chi enghreifftiau o arferion da yr hoffech eu rhannu? Os oes, rydyn ni eisiau clywed gennych!

Rydyn ni’n chwilio am enghreifftiau o fywyd go iawn o sut mae sefydliadau wedi mynd i’r afael â materion iechyd a llesiant pwysig yn eu gweithleoedd i’w rhoi ar ein gwefan ac ar blatfformau eraill.

Drwy rannu eich llwyddiannau, gallwch ysbrydoli eraill i wella iechyd a llesiant yn y gweithle, yn ogystal â hybu cydweithio a pherfformiad.

Cysylltwch â ni i rannu eich stori: [email protected].

Apiau GIG Cymru am ddim ar gyfer Atal a Rheoli Diabetes

Mae tri ap am ddim bellach ar gael trwy GIG Cymru i helpu i atal a rheoli diabetes Math 2.

Mae un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn byw gyda diabetes neu gyflwr cyn-ddiabetes. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cefnogaeth werthfawr i’r rhai yr effeithir arnynt neu’r rheiny sydd mewn perygl.

  • Mae ei nodweddion allweddol yn cynnwys:
  • Dangosfyrddau olrhain wythnosol
  • Modiwlau dysgu rhyngweithiol
  • Offer olrhain gweithgarwch
  • Cyngor arbenigol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Gosod nodau a heriau
  • Mynediad at gymuned gefnogol o dros 60,000 o ddefnyddwyr
  • Gallwch hefyd wahodd aelodau o’r teulu i ymuno â chi ar y platfformau. Bydd hyn yn creu rhwydwaith cymorth sydd wedi’i brofi i wella canlyniadau’n sylweddol.

Sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn?

Gall pawb yng Nghymru lawrlwytho’r apiau hyn yn rhad ac am ddim drwy lenwi ffurflen ar-lein syml:

Byddwch angen eich rhif GIG, sydd i’w gael ar ap GIG Cymru, presgripsiwn diweddar, llythyr apwyntiad neu gallwch ofyn i’ch practis meddyg teulu.

Am ragor o wybodaeth, ewch I wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dweud eich dweud: Helpu i lunio Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl

Person mewn cadair olwyn wrth ddesg yn gweithio ar liniadur ac yn siarad ar y ffôn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi uchelgais clir i wella cynhwysiant, cyfranogiad a hawliau pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd — gan gynnwys cyflogaeth.

Fel cyflogwr yng Nghymru, mae eich llais yn bwysig. Rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth greu gweithleoedd cynhwysol sy’n galluogi pobl anabl i ffynnu. Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle chi i helpu i lunio polisïau’r dyfodol sy’n cefnogi gwell mynediad at gyflogaeth, triniaeth deg a datblygiad gyrfa hirdymor i unigolion anabl.

Pam cymryd rhan?

  • Helpu i lywio polisïau sy’n cefnogi recriwtio cynhwysol ac arferion gweithleoedd
  • Sicrhau bod anghenion a safbwyntiau cyflogwyr yn cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau cenedlaethol
  • Cyfrannu at Gymru decach a mwy cyfartal lle gall pawb gyflawni eu potensial

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad heddiw

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 7 Awst 2025, ac rydym yn annog pob cyflogwr — mewn sefydliadau mawr a bach — i ymateb.

I ddarllen y cynllun a rhannu eich barn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru yn ehangu’r rhaglen sgiliau hyblyg yn sylweddol

Tri gweithiwr yn edrych ar liniadur gyda'i gilydd mewn gweithle diwydiannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer ei Rhaglen Sgiliau Hyblyg, gan gynyddu’r buddsoddiad blynyddol o £1.3 miliwn i fwy na £7.5 miliwn. Nod y gwelliant hwn yw mynd i’r afael â phrinder sgiliau drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi achrededig i weithwyr ledled Cymru. Gall cyflogwyr nawr gael mynediad at grantiau sy’n talu 50% o gostau hyfforddi, hyd at £50,000 fesul busnes y flwyddyn, i gefnogi uwchsgilio mewn sectorau allweddol fel peirianneg, digidol, technolegau gwyrdd ac arweinyddiaeth.

Pwysleisiodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau, rôl y rhaglen wrth gefnogi busnesau Cymru i fuddsoddi yn eu gweithlu, gan ddatgan, “Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu huchelgais a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, ewch i gyhoeddiad swyddogol Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau ymgyrchoedd Gorffennaf

Gorffennaf Di Blastic (1-31 Gorffennaf)

Mae Gorffennaf Di Blastic yn fudiad byd-eang sy’n grymuso pobl i leihau llygredd plastig er mwyn cael amgylchedd glanach. Gall eich busnes chwarae ei ran hefyd:

  • Rhoi mentrau ar waith i leihau’r defnydd o blastig yn y gweithle
  • Addysgu gweithwyr am arferion cynaliadwy
  • Annog cyfranogiad mewn heriau i leihau’r defnydd o blastig untro

Edrychwch i weld sut gall eich gweithle gymryd rhan yn y fenter Gorffennaf Di Blastig.

Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol (9-13 Gorffennaf)

Thema: Deall Niwed Alcohol yn y Gweithle

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, dan arweiniad Alcohol Change UK, yn gyfle gwerthfawr i gyflogwyr hyrwyddo dewisiadau iachach, codi ymwybyddiaeth am effaith alcohol ar lesiant, a chefnogi diwylliant agored a chefnogol.

Gall cyflogwyr gymryd rhan drwy godi ymwybyddiaeth drwy gyfathrebu mewnol, cynnal sesiynau addysgol, cyfeirio at wasanaethau cymorth, ac adolygu polisïau alcohol yn y gweithle i hyrwyddo amgylchedd gwaith iachach a mwy cefnogol.

Dysgwch fwy ar dudalen ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol.

Gellir gweld gwybodaeth ac adnoddau am ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.