
Digwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Lleoliad
- Public Health Wales
Rydym yn lansio pennod newydd i Cymru Iach ar Waith, ac rydym am i chi fod yn rhan ohoni! Ymunwch â ni i ddysgu am ein gwasanaethau ac adnoddau newydd, rhad ac am ddim, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi iechyd a llesiant mewn busnesau ledled Cymru.
Beth i’w ddisgwyl
Yn ystod y bore, byddwch yn dysgu am ein Hofferyn Arolwg Cyflogwyr newydd, Cymorth Cynghorwyr yn y Gweithle a Rhaglen Mentora Cymheiriaid, yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol ac yn cymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol am weithwyr ifanc (16-24).
Darperir lluniaeth, gan gynnwys bwffe brecwast, a bydd cyfle i rwydweithio â sefydliadau eraill o bob cwr o Gymru a fydd yn bresennol.
Mae agenda lawn i ddilyn.
Siaradwyr
Yn ystod y bore, bydd y canlynol yn ymuno â ni:
- Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
- Dr Tracey Cooper OBE, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Yr Athro Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol dros Iechyd a Llesiant
- Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd
- Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd
Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed gan dîm Cymru Iach ar Waith a sefydliadau eraill o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith.
Manylion
- Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
- 9:30 – 12:45 (cofrestru, rhwydweithio a lluniaeth 09:00 – 09:30)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, CF10 4BZ
Noder, mae capasiti yn ein lleoliad yn gyfyngedig ac rydym yn gofyn yn garedig i 2 berson yn unig o bob sefydliad gofrestru yn y lle cyntaf. Pan fyddwn yn cyrraedd y capasiti byddwn yn agor rhestr wrth gefn ar gyfer unrhyw archebion ychwanegol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
- Digwyddiad