Loading Digwyddiadau

Diwrnod Amser i Siarad

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn y gweithle. Chwiliwch am wybodaeth ar sut i gymryd rhan, annog trafodaeth agored a lleihau stigma.

Gwerth cefnogi sgyrsiau iechyd meddwl yn y gwaith

Mae annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl o fudd i weithwyr a chyflogwyr. Gall gweithle sy’n cefnogi lles meddyliol:

  • Greu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth
  • Cryfhau perthynas yn y gweithle a gwaith tîm
  • Sicrhau bod y gweithwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi
  • Lleihau absenoldeb a gorweithio sy’n gysylltiedig â straen
  • Gwella cynhyrchiant cyffredinol ac ysbryd y gweithwyr yn y gweithle.

Pam mae ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn bwysig yn y gweithle

Mae creu diwylliant sy’n annog trafodaethau agored yn arwain at weithlu iachach, mwy ymrwymedig. Gall anwybyddu iechyd meddwl yn y gweithle arwain at fwy o absenoldeb a pherfformiad is. Mae heriau cyffredin yn cynnwys:

  • Gweithwyr yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu siarad am eu hiechyd meddwl
  • Lefelau straen uwch a phryder yn y gweithle
  • Diffyg cefnogaeth sy’n arwain at lai o foddhad yn eu gwaith
  • Colli cynhyrchiant o ganlyniad i bryderon iechyd meddwl sydd ddim yn cael eu rheoli.

Camau syml y gall cyflogwyr eu defnyddio i gefnogi Diwrnod Amser i Siarad

Fel cyflogwr, gallwch greu diwylliant o ddealltwriaeth lle mae’r gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus i siarad am iechyd meddwl.

Dyma rai camau syml ond effeithiol y gallwch eu cymryd i gefnogi Diwrnod Amser i Siarad ac annog sgyrsiau agored:

Annog sgwrs

Defnyddio posteri, e-byst, y wybodaeth ddiweddaraf ar y mewnrwyd, a chyfarfodydd tîm i wella ymwybyddiaeth.

Trefnu cyfnod egwyl “Te a Sgwrs” ar gyfer trafodaethau agored. Gallwch feddwl am bynciau trafod posib gydag awgrymiadau.

Creu mannau diogel

Sefydlu grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol, sesiynau gwirio lles, neu fannau tawel pwrpasol lle gall gweithwyr siarad yn gyfrinachol

Caniatáu i weithwyr i gysylltu’n breifat trwy ddefnyddio bocs awgrymiadau neu fforwm ar-lein.

Darparu adnoddau

Rhannu manylion llinellau cymorth, gwasanaethau cwnsela, apiau lles, Rhaglenni Cymorth i Weithwyr (EAPs), a mentrau lles mewnol.

Arwain drwy weithredu

Annog timau arweinyddiaeth a rheolwyr i siarad yn agored am iechyd meddwl a hyrwyddo diwylliant o gefnogaeth.

Hapus – gofod sy’n ymroddedig i les meddyliol

Mae llawer o weithwyr sy’n chwilio am help gyda lles meddyliol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Hapus yw lle mae syniadau ac adnoddau’n cael eu rhannu i helpu i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol. Gall cyflogwyr gefnogi Hapus drwy:

  • Rhannu adnoddau a syniadau Hapus gan ddefnyddio eich rhwydweithiau cyfathrebu mewnol
  • Annog staff i holi am gyngor arbenigol ar les meddyliol
  • Gwneud cais i ddod yn gefnogwr Hapus.

Cymryd Rhan

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan a chael adnoddau ar wefan Time to Talk Day (Saesneg yn unig).

Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen we iechyd meddwl a lles i dderbyn mwy o wybodaeth.


  • Ymgyrch