
Diwrnod Arthritis y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Arthritis y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o arthritis, ei symptomau a'r effaith ar weithwyr yn y gwaith.
Manteision cefnogi Diwrnod Arthritis y Byd yn y gwaith
Nod Diwrnod Arthritis y Byd ydy cynyddu gwybodaeth am fodolaeth ac effaith arthritis yn fyd-eang.
Gall anwybyddu arthritis a chyflyrau iechyd cyhyrysgerbydol cysylltiedig eraill, yn y gweithle, arwain at fwy o absenoldeb a gostyngiad mewn perfformiad.
Gall gweithle sy’n cefnogi gweithwyr ag arthritis a chyflyrau cysylltiedig:
- Greu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth.
- Cryfhau perthnasoedd yn y gweithle a gwaith tîm.
- Sicrhau bod y gweithwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
- Lleihau absenoldeb a gorweithio
- Gwella cynhyrchiant ac ysbryd yn y gweithle
Dathlu Diwrnod Iechyd Arthritis y Byd yn y gwaith
Yn y cyfnod cyn ac yn ystod Diwrnod Arthritis y Byd, gall cyflogwyr:
Cynnal sesiynau sy’n creu ymwybyddiaeth o arthritis
Trefnu sgwrs neu weithdy yn eich gweithle i rannu cyngor ar reoli poen neu gyflwyno newidiadau mewn ffordd o fyw sy’n gallu lleihau effaith arthritis.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r sesiynau hyn fel cyfle i annog symud yn y gwaith i helpu gweithwyr i gynnal ystwythder cymalau.
Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
Gallwch ddefnyddio eich dulliau cyfathrebu mewnol arferol i rannu gwybodaeth ac adnoddau am arthritis.
Hyrwyddo’r ffaith y gellir rheoli arthritis yn y gwaith a rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel:
- Arthritis Action (Saesneg yn unig)
- grwpiau cymorth arthritis lleol
- fforymau ar-lein (Saesneg yn unig)
Mae gan Versus Arthritis wybodaeth am iechyd cymalau (Saesneg yn unig) y gallwch ei rhannu â’r gweithwyr.
Rhannu straeon gweithwyr
Anogwch y gweithwyr i rannu eu profiadau gydag arthritis fel ffordd o ddechrau sgwrs agored yn eich gweithle.
Rhowch gyfle i rannu profiadau fydd yn helpu’r gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a chreu diwylliant o ddealltwriaeth yn eich gweithle.
Cefnogi gweithwyr ag arthritis trwy gydol y flwyddyn
Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch eu gwneud trwy gydol y flwyddyn i gefnogi gweithwyr ag arthritis. Dyma rai awgrymiadau:
Dysgu mwy am arthritis
Gall gwella eich ymwybyddiaeth a’ch gwybodaeth am arthritis eich helpu i gefnogi gweithwyr gyda’r cyflwr.
Gallwch ddysgu am arthritis ar wefan NHS 111 Cymru.
Dysgwch fwy am iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle.
Hyfforddi rheolwyr llinell
Sicrhau bod rheolwyr wedi’u hyfforddi ar sut i gael trafodaethau empathig a chyfrinachol am gyflyrau iechyd fel arthritis.
Dysgwch fwy am gyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.
Hyrwyddo gwasanaethau cymorth
Hyrwyddo’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn eich gweithle. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth i weithwyr sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol.
Cymryd Rhan
Ffeindiwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Arthritis y Byd a derbyn adnoddau ar wefan Arthritis Action (Saesneg yn unig).
I gael diweddariadau am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn eicn cylchlythyr.
- Ymgyrch