Loading Digwyddiadau

Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
Lleoliad
UK-Wide

Cyfle i ddysgu fwy am Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu a dysgu sut y gall cyflogwyr gefnogi staff i roi'r gorau i ysmygu am byth, gwella eu hiechyd, a chreu gweithle glanach.

Gwerth cefnogi gweithwyr i roi’r gorau i ysmygu

Mae helpu gweithwyr i roi’r gorau i ysmygu o fudd i unigolion a busnesau. Gall cyflogwyr sy’n cefnogi rhoi’r gorau i ysmygu:

  • Gwella iechyd gweithwyr
  • Cynyddu cynhyrchiant a gwella ymgysylltiad yn y gweithle
  • Lleihau absenoldeb ac absenoldeb salwch oherwydd afiechydon sy’n gysylltiedig ag ysmygu
  • Creu amgylchedd gwaith glanach, iachach i bawb
  • Cryfhau eich henw da fel cyflogwr sy’n gwerthfawrogi lles staff

Pam mae rhoi’r gorau i ysmygu yn bwysig yn y gweithle

Mae ysmygu yn effeithio ar iechyd, cynhyrchiant a lles ariannol gweithwyr. Mae effeithiau cyffredin ysmygu yn y gweithle yn cynnwys:

  • Cynnydd mewn risg o salwch difrifol fel clefyd y galon, strôc, a chanser yr ysgyfaint
  • Lefelau egni a chanolbwyntio is
  • Lefelau uwch o straen a phryder oherwydd dibyniaeth ar nicotin
  • Cymryd seibiannau ysmygu yn aml yn tarfu ar lif gwaith a chynhyrchiant
  • Straen ariannol ar weithwyr, gydag ysmygu yn costio miloedd o bunnoedd y flwyddyn

Gwneud Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu yn ddifyr ac yn gynhwysol

Annog gweithwyr i gymryd rhan yn y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Dim Ysmygu gyda’r mentrau hyn:

Byddwch yn gefnogol

Sefydlwch grŵp rhoi’r gorau iddi neu sefydlu system cyfaill yn y gweithle Lle bo’n bosibl, dylech ganiatáu cyfnodau seibiant hyblyg

Gofynnwch i arbenigwr eich helpu

Ewch ati i greu partneriaeth gyda gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn lleol ar gyfer trefnu sesiynau cymorth.

Rhannwch straeon llwyddiant

Tynnwch sylw at weithwyr sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu yn llwyddiannus i ysbrydoli eraill.

Camau y gall cyflogwyr eu dilyn i gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu

Dyma rai camau y gallwch eu dilyn i gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu yn eich gweithle:

  • Rhannu posteri, negeseuon e-byst, a straeon o lwyddiant fyddai’n ysbrydoli ac ysgogi gweithwyr i roi’r gorau i ysmygu.
  • Cyfeirio staff i Helpa Fi i Stopio y GIG i roi’r gorau i ysmygu.
  • Annog sgyrsiau agored am roi’r gorau i ysmygu heb unrhyw bwysau na barn.
  • Cydnabod cynnydd ac annog dyfalbarhad.

Mwy o wybodaeth

Chwilio am fwy o wybodaeth am Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu a derbyn adnoddau i’w defnyddio yn y gweithle ar wefan ASH Cymru (Saesneg yn unig).

Cefnogwch y gweithwyr i fod yn rhan o’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio

Mae Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth GIG sy’n rhad ac am ddim sydd wedi’i gynllunio i gefnogi ysmygwyr i roi’r gorau iddi am byth. Mae’n cynnwys archwiliadau rheolaidd a meddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu am ddim.

Gall cyflogwyr yng Nghymru hyrwyddo’r gwasanaeth hwn drwy:

  • Arddangos posteri a thaflenni Helpa Fi i Stopio mewn mannau staff.
  • Cynnwys dolenni Helpa Fi i Stopio mewn e-byst mewnol, cylchlythyrau neu drwy gyfrwng y mewnrwyd.
  • Annog rheolwyr i gyfeirio gweithwyr at y cymorth sydd ar gael.

Ewch i Helpa Fi i Stopio i ddod o hyd i wasanaethau ac adnoddau lleol i’ch gweithwyr.


  • Ymgyrch