
Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd i godi ymwybyddiaeth o iechyd a ffitrwydd a dod o hyd i ffyrdd o greu amgylchedd gwaith mwy egnïol ac iachach.
Gwerth cefnogi Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd yn y gwaith
Mae gweithle cadarnhaol sy’n annog symud a gweithgarwch rheolaidd yn helpu gweithwyr i gadw’n iach, yn hapus ac yn llawn cymhelliant.
Mae helpu gweithwyr i gadw’n heini yn y gwaith yn cynnig llawer o fanteision i gyflogwyr:
Perfformiad gwaith gwell
- Mae ymarfer corff yn helpu pobl i ganolbwyntio, aros yn effro a meddwl yn glir
- Pan fydd gweithwyr yn teimlo’n dda, maen nhw’n gwneud mwy mewn llai o amser
Llai o ddiwrnodau salwch
- Mae gweithwyr egnïol yn iachach ac yn cymryd llai o ddiwrnodau i ffwrdd
- Gall symud mwy rwystro problemau fel poen cefn, clefyd y galon a gordewdra
Gweithwyr hapusach
- Mae gweithle sy’n annog symud yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- Mae gweithwyr hapus yn mwynhau eu gwaith yn fwy ac yn llai tebygol o adael
Gwell gwaith tîm
- Mae gweithgareddau fel heriau camau neu gyfarfodydd cerdded yn dod â phobl at ei gilydd
- Pan fydd gweithwyr yn cyd-dynnu’n dda, maen nhw’n gweithio’n well fel tîm
Enw da
- Mae cwmnïau sy’n gofalu am iechyd yn denu mwy o weithwyr
- Mae pobl eisiau gweithio lle maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ac yn derbyn gofal
Mae manteision bod yn egnïol yn cael eu crynhoi yng Nghanllawiau Gweithgarwch Corfforol y Prif Swyddogion Meddygol (Saesneg yn unig).
Cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd yn y gwaith
Beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd ar hyn o bryd, mae yna ffyrdd y gall pawb fod yn egnïol ar Ddiwrnod
Cenedlaethol Ffitrwydd – cofiwch fod yn gynhwysol i’r rhai ag anableddau.
Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnyn nhw yn eich gweithle:
Annog arferion iach yn y gweithle
Hyrwyddo arferion bach, egnïol fel gweithwyr yn defnyddio’r grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd o’u lleoliad, os oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu ceir.
Gallech roi cynnig ar her dringo grisiau Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) yn eich gweithle.
Trefnu neu hyrwyddo digwyddiadau
Trefnu sesiynau blasu amser cinio ar gyfer gweithgareddau fel ioga neu Pilates.
Hysbysebu grwpiau chwaraeon lleol, yn enwedig rhai nid-er-elw ac elusennau. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o helpu i ddiogelu a gwella llesiant meddyliol eich gweithiwr.
Ymgysylltu â’ch timau
Cynnwys gweithwyr mewn cynllunio – deall eu diddordebau a’u cynnwys wrth drefnu a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau.
Nid oes rhaid i gynnal digwyddiad fod yn dasg enfawr. Gwnewch rywbeth sy’n annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd – yn y gweithle a’r tu allan iddo.
Pwysigrwydd bod yn egnïol yn y gwaith
Nid yw Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd yn canolbwyntio ar un foment yn unig, ond ar yr hirhoedledd wrth gymryd camau bach tuag at ffordd o fyw a all amddiffyn a gwella eich iechyd chi eich hun ac iechyd eich gweithwyr.
Hyrwyddo opsiynau teithio gwyrdd
- Darparu adnoddau a hyrwyddwch opsiynau teithio gwyrdd, gan gynnwys cymudo llesol. Hyd yn oed os yw staff yn teithio ar y trên neu’r bws, maen nhw’n debygol o gerdded mwy o’r orsaf nag y bydden nhw o’u car.
- Trefnu cynllun aberthu cyflog i brynu beic a fydd hefyd yn fudd cyflogaeth cadarnhaol i’ch staff
Annog arferion iach yn y gweithle
- Dechrau grŵp cerdded yn y gweithle. Mae mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol (Saesneg yn unig) – anogwch weithwyr i gymryd rhan a hyrwyddwch y digwyddiad yn eich gweithle, ond does dim angen aros tan fis Mai, mae unrhyw amser yn amser da i ddechrau.
- Hyrwyddo arferion bach, egnïol fel gweithwyr yn defnyddio’r grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd o’u lleoliad, os oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu ceir. Gallech roi cynnig ar her dringo grisiau (Saesneg yn unig) Sefydliad Prydeinig y Galon yn eich gweithle.
- Trefnu sesiynau blasu amser cinio ar gyfer gweithgareddau fel ioga neu Pilates
- Hysbysebu grwpiau chwaraeon lleol, yn enwedig rhai nid-er-elw ac elusennau. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o helpu i ddiogelu a gwella llesiant meddyliol eich gweithiwr.
Ymgysylltu â’ch timau
- Siarad â gweithwyr i ddeall eu diddordebau a’u cynnwys wrth gynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau
Defnyddio cymorth gan wasanaethau eraill
Yng Nghymru, mae amrywiaeth o sefydliadau a all eich cynorthwyo chi a’ch gweithwyr i greu gweithle mwy egnïol:
- Mae Sustrans yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i rymuso eu staff i adael y car gartref a theithio i’r gwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic, cerdded neu rannu car.
- Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor, syniadau, awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith.
- Mae Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig) yn darparu adnoddau a gwybodaeth ar-lein am ddim am hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gwaith
- Mae gwefan Ramblers Cymru (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth am deithiau cerdded lleol neu grwpiau cerdded yn eich ardal
Darganfyddwch fwy am weithleoedd egnïol.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan a chael adnoddau i’w defnyddio yn ystod Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd, ewch i wefan Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch